Disgyblion Penybryn yn cael profiadau i'w cofio fel rhan o Wythnos 3P

Dyddiad: 08/11/2022
Penybryn (1)

 

DATGANIAD AR RAN YSGOL PENYBRYN, BETHESDA


Mae disgyblion Ysgol Penybryn ym Methesda wedi bod yn brysur iawn yn ddiweddar yn cynllunio a mwynhau wythnos o weithgareddau a oedd yn eu galluogi i ddefnyddio pwerau dysgu y Cwricwlwm Newydd.

 

Y syniad tu ôl i “Wythnos 3P” oedd cynnig cyfle i ddisgyblion yr ysgol wneud y mwyaf o’u profiadau, pwerau dysgu a pedwar diben cwricwlwm addysg newydd Cymru.

 

Meddai’r Pennaeth, Gethin Thomas: “Dyma’r tro cyntaf erioed i ni ym Mhenybryn gynnal Wythnos 3P, ac yn sicr nid dyma’r tro olaf.

 

“Heuwyd yr hedyn cyntaf gan y Cyngor Ysgol nôl ym mis Medi pan ofynnwyd iddynt greu gweledigaeth newydd sbon i’r ysgol.

 

“Y prif beth oedd yn bwysig i’r plant oedd eu bod yn cael ystod o brofiadau newydd ac unigryw a chael cyfleoedd i ddefnyddio’r pwerau dysgu - sef gweithio’n galed, canolbwyntio, dyfalbarhau, datrys problemau, ymdrechu, dychmygu, cymryd risg a gwella eu hunain.

 

“Roedd yn bwysig sicrhau fod popeth yn ateb gofynion y pedwar diben sef sylfaen ac angor Cwricwlwm Newydd i Gymru. Mae dau ben yn well nac un meddan nhw, a dyna ddigwyddodd.”

 

O ganlyniad aeth y Cyngor Ysgol – sef grŵp o ddisgyblion sydd wedi ei dewis gan eu cyd-ddisgyblion – ati i drefnu cyfres o weithgareddau a oedd yn diwallu’r holl anghenion uchod. ‘Job’ a hanner yn ddiamheuaeth!

 

Daeth arbenigwyr i mewn i gynnal gweithdai gyda’r plant yn yr ysgol, o ‘Kick Boxing’ i sesiynau Yoga a cherdd. Daeth yr Urdd i mewn i gynnal sesiynau ffitrwydd, ac aeth y disgyblion ar ymweliadau i Ganolfan Rhaffau Uchel yn Llanberis, Plas Menai a ‘Paint Ball’ yn Neiniolen. Cynhaliwyd sesiynau cymorth cyntaf i’r plant a llawer o weithgareddau meddylgarwch.

 

Roedd cyfle hefyd i baratoi smwddis a choginio prydau iachus yn yr ysgol a roddodd gyfleoedd i ddatblygu sgiliau rhifedd. Yna, roedd gwaith cartref ‘Robin risg’, i drio rhywbeth newydd a herio eu hunain.

 

Ychwanegodd Mr Thomas: “Mi fuon ni ar daith gerdded noddedig yn yr ardal leol ar hyd Lôn Las Ogwen, a’r uchafbwynt yn ddi-os oedd cael gwylio ffilm yn Neuadd Ogwen ar y bore Gwener olaf.

 

“Braf oedd cael cyflwyno anrheg i bob plentyn yn yr ysgol ar ddiwedd yr wythnos, sef llun ohonynt  ar lechen fel atgof o’u dewrder a’u gwaith caled.

 

“Do, fe gafodd y plant brofiadau a sgiliau newydd, unigryw, a fydd gyda nhw gydol eu hoes er mwyn eu datblygu’n unigolion iach a hyderus, mentrus a chreadigol, egwyddorol a gwybodus ac wrth gwrs yn uchelgeisiol a galluog.

 

“Hir oes i’r Wythnos 3P yn ein barn ni!!!”

 

Ond nid y plant hynaf ydi’r unig rai i fwynhau’r hyn sydd gan y Cwricwlwm Newydd i’w gynnig. Gyda chwpan y byd pêl-droed ar ei ffordd, bydd disgyblion iau Bethesda yn safle Abercaseg yn cynnal wythnos Cymru Cŵl yn fuan hefyd. Mae hen edrych ymlaen gyda phob math o weithgareddau wedi eu paratoi a fydd yn cynnig cyfle i’r disgyblion ddysgu mwy am Gymru trwy amrywiaeth o sesiynau llawn hwyl.