Cyngor Gwynedd yn cefnogi plant Porthmadog i blannu

Dyddiad: 28/11/2022
Porthmadog (2)

Mae plant ysgol lleol wedi plannu mwy na 150 o goed ar gae chwarae ym Mhorthmadog er budd yr amgylchedd a chynefinoedd gwyllt.

 

Diolch i bartneriaeth rhwng Gyngor Gwynedd a Chyngor Tref Porthmadog, mae cenhedlaeth ifanc yr ardal wedi gallu gwneud rhywbeth ‘go iawn’ i geisio mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd ar gyfnod amserol, sef yn ystod Wythnos Hinsawdd Cymru ac ar gynffon cyfarfod COP27 yn yr Aifft.

 

Mae Cyngor Tref Porthmadog wedi clustnodi rhan helaeth o gae Bodawen ar gyfer y cynllun. Mae mewn man amlwg i bobl sy’n teithio i fewn ac heibio’r dref, sef ger y gylchfan ble saif Cerrig yr Orsedd o Eisteddfod Genedlaethol 1987.

 

Bydd y llecyn yn cael ei reoli er budd natur i’r dyfodol – yn ogystal a’r 150 o goed cynhenid sydd wedi eu plannu mae cynlluniau ar gyfer perllan gymunedol gyda tua 40 o goed ffrwyth a dôl o flodau gwyllt sylweddol ei maint.

 

Dywedodd Hywyn Williams, Swyddog Bioamrywiaeth Cyngor Gwynedd: “Diolch o galon i ddisgyblion a staff ysgolion Eifion Wyn, Borth-y-Gest a’r Gorlan am fod mor barod i ddangos bôn braich a chyfrannu cymaint i’r prosiect.

 

“Mae hwn wedi bod yn weithgaredd gwerth chweil a dwi’n gobeithio fod y plant wedi mwynhau ac wedi dysgu am bwysigrwydd gwarchod a hybu cynefinoedd ac amrywiaeth mewn bywyd gwyllt.”

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Amgylchedd: “Mae’n wych gweld y genhedlaeth ifanc yn cael y cyfle i ddysgu a chyfrannu fel hyn, ac mae’n niolch yn fawr i’r Cyngor Tref am eu gweledigaeth a’u brwdfrydedd tuag at y cynllun ar gae Bodawen.

 

“Efallai fod llawer ohonom yn teimlo rhwystredigaeth o’r holl siarad fu yn y COP27 felly mae cyfraniadau bychan fel hyn yn bwysig wrth i ni gyd ystyried ein cyfrifoldebau yng nghyd-destun newid hinsawdd.”

 

LLUNIAU: Plant ardal Porthmadog yn plannu’r coed gyda swyddogion bioamrywiaeth Cyngor Gwynedd.