Cabinet Cyngor Gwynedd yn ystyried argymhelliad i gynyddu Premiwm Treth Cyngor ar ail gartrefi

Dyddiad: 17/11/2022

Ar 22 Tachwedd, bydd Cabinet Cyngor Gwynedd yn ystyried cynnig i argymell fod y Cyngor Llawn yn cynyddu’r Premiwm Treth Cyngor ar ail gartrefi o 100% i 150% o Ebrill 2023. Cynigir hefyd y dylid cadw’r Premiwm ar dai gwag tymor hir ar y gyfradd bresennol o 100%.

 

Bydd Aelod Cabinet Cyllid y Cyngor, y Cynghorydd Ioan Thomas, hefyd yn argymell fod unrhyw arian ychwanegol ddaw i goffrau’r Cyngor yn sgil y newid yn cael ei glustnodi ar gyfer taclo’r argyfwng digartrefedd, gan y gwelwyd cynnydd o 47% yn y nifer sy’n ddigartref yng Ngwynedd dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

 

Er mwyn helpu aelodau etholedig i benderfynu os ydynt am i’r Premiwm gynyddu, cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus dros 28 niwrnod yn ystod misoedd Medi a Hydref eleni.

 

Dywedodd y Cynghorydd Ioan Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Gyllid:

 

“O’r holl ymgynghoriadau mae’r Cyngor wedi ei eu cynnal dros y blynyddoedd diweddar, dyma’r ymarferiad sydd wedi sbarduno’r nifer fwyaf o ymatebion gyda mwy na 7,300 o bobl yn cymryd rhan. Rydw i’n ddiolchgar i bob un ohonynt am ymateb i alwad y Cyngor i fanteisio ar y cyfle i leisio barn.

 

“Rydym wedi pwysleisio o’r dechrau nad refferendwm oedd yr ymarferiad hwn, ond cyfle inni gael darlun o farn a phrofiad ystod o bobl. Rydym bellach wedi cael cyfle i gnoi cil ar ganlyniadau’r arolwg a byddaf yn gofyn i’r Cabinet argymell fod y Cyngor Llawn yn cynyddu’r Premiwm o 100% i 150% ar gyfer ail gartrefi a chadw’r Premiwm ar 100% ar dai gweigion.

 

“Mae’n bwysig cofio mai un cam yn y broses ydi’r adroddiad i’r Cabinet ac mai’r Cyngor Llawn fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol ynghylch y Premiwm Treth Cyngor yn ei gyfarfod ym mis Rhagfyr.”

Hyd yma mae’r drafodaeth ynghylch y Premiwm Treth Cyngor wedi canolbwyntio i raddau helaeth ar yr effaith mae ail gartrefi yn eu cael ar y farchnad dai leol, gan arwain at gynnydd mewn prisiau tu hwnt i’r hyn all llawer o drigolion Gwynedd ei fforddio.

 

Mae’n hollol amlwg erbyn hyn fod yr argyfwng tai yma yng Ngwynedd hefyd yn dwysau’r sefyllfa digartrefedd yn ddifrifol ar draws y sir. Mae diffyg cyfleon i bobl sy’n byw mewn tai rhent allu prynu eu cartref cyntaf yma yng Ngwynedd yn arwain at wasgfa ar y sector rhentu, a hynny i’r farchnad breifat a thai cymdeithasol fel ei gilydd.  O ganlyniad, mae diffyg tai rhent ar gael i’r Cyngor fedru darparu llety i bobl ddigartref lleol. Rhaid felly i’r Cyngor eu lletya mewn gwestai a llety dros dro am gyfnodau hir iawn, ar gost anghynaladwy.

 

Eglurodd y Cynghorydd Ioan Thomas ei fod o’r farn y dylai’r Cyngor adeiladu ar y gwaith da o ddefnyddio unrhyw arian ddaw i’r coffrau drwy’r Premiwm i sicrhau cartrefi i bobl leol.

 

“Hyd yma, mae’r arian sydd wedi ei gasglu drwy’r Premiwm wedi ei glustnodi yn benodol ar gyfer y Cynllun Gweithredu Tai Cyngor Gwynedd.

 

“O fewn y cynllun arloesol hwn, mae’r Cyngor wedi gallu bwrw mlaen efo dau gynllun Tŷ Gwynedd fydd yn darparu cartrefi fforddiadwy ac addas i hyd at 86 o bobl o fewn eu cymunedau ym Mangor a Llŷn. Rydym hefyd wedi ehangu ar gynllun rhannu ecwiti Llywodraeth Cymru, sy’n golygu fod y cynnig o fewn cyrraedd mwy o bobl Gwynedd.

 

“Rydw i’n galw ar fy nghyd-aelodau i ehangu ar hyn drwy sianelu unrhyw arian ychwanegol a ddaw o godi’r Premiwm ar ail gartrefi tuag at gynlluniau i atal digartrefedd. Yn ystod  2021/22 cysylltodd 1,126 o bobl â’r Cyngor am eu bod yn ddigartref, sy’n gynnydd o 19% o gymharu â’r llynedd a chynnydd o 47% ar y flwyddyn 2018/19. Does dim dwywaith fod yr argyfwng costau byw wedi cyfrannu’n fawr at y sefyllfa dorcalonnus yma.

 

“Mae sicrhau llety diogel i bobl sydd heb unlle arall i fyw yn golygu fod y Cyngor yn gwario £6 miliwn yn fwy eleni yn unig ar wasanaethau digartrefedd ac mae hyn wrth gwrs yn arian nad yw ar gael i gynnal gwasanaethau angenrheidiol eraill. Rwyf felly yn argymell fod incwm ychwanegol o’r Premiwm yn cael ei ddefnyddio i gau rhywfaint ar y bwlch hwn.”

 

Nodiadau

Diffinnir ail gartref fel annedd nad yw yn unig nac yn brif gartref person ac sydd wedi ei dodrefnu'n sylweddol. Mae hyn yn gallu cynnwys eiddo sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer llety gwyliau tymor byr sy’n ddarostyngedig i Dreth Cyngor ac sydd ddim yn gymwys am eithriadau statudol.

Diffinnir eiddo wag hir dymor fel eiddo sydd wedi bod yn wag a heb ei dodrefnu i raddau helaeth am gyfnod di-dor o flwyddyn o leiaf.

Ers 1 Ebrill 2021 mae perchnogion ail gartrefi ac eiddo gwag hir dymor yng Ngwynedd yn talu premiwm o 100%, a chyn hynny 50% rhwng 1 Ebrill 2018 a 31 Mawrth 2021.

 

Yn dilyn newid yn y ddeddf yn gynharach eleni, mae gan gynghorau Cymru yr hawl i gynyddu uchafswm y Premiwm Treth Cyngor ar dai o’r fath o hyd at 300%, o Ebrill 2023 ymlaen. Os bydd Cyngor Gwynedd yn penderfynu cynyddu’r Premiwm yn ei gyfarfod ar 1 Rhagfyr, bydd perchnogion ail gartrefi yn gweld eu bil treth codi o Ebrill 2023 ymlaen.

 

Mae’r adroddiad fydd gerbron y Cabinet ar 22 Tachwedd, sy’n cynnwys canlyniadau llawn yr ymgynghoriad, ar gael ar wefan Cyngor Gwynedd: Eitem 6 - Adroddiad - Premiwm Treth Cyngor.pdf (llyw.cymru)