Cyngor Gwynedd yn agor cynllun lesu eiddo i landlordiaid

Dyddiad: 08/11/2022
Llun cynllun lesu cymru
Mae cynllun newydd i ganiatáu landlordiaid preifat i lesu’u heiddo drwy Gyngor Gwynedd wedi ei lansio.

 

Mae Cynllun Lesu Cymru: Gwynedd yn rhoi’r cyfle i landlordiaid lesu eu heiddo am incwm rhent misol gwarantedig gan y Cyngor, ynghyd â gwasanaeth rheoli eiddo llawn, am gyfnod o bump i 20 mlynedd. Ariennir y cynllun gan Lywodraeth Cymru.

  

Mae’r cynllun wedi’i lunio i alluogi mwy o bobl i rentu'n breifat yng Ngwynedd a gwneud rhentu'n opsiwn mwy fforddiadwy, gan gynnig sicrwydd a chefnogaeth i denantiaid tra’n rhoi hyder i landlordiaid. 

     

Bwriad y cynllun newydd hwn yw cynnig datrysiad hir dymor a sefydlog trwy ddarparu cymhellion i landlordiaid preifat lesu eu heiddo i Gyngor Gwynedd am rent fforddiadwy.   

 

Trwy gymryd rhan yn y cynllun, bydd landlordiaid yn derbyn incwm rhent gwarantedig am gyfnod y les, a mynediad at grantiau o hyd at £5,000 i ddod â’u tai i safon statudol. Ar ben hynny, mae’r Cyngor yn darparu gwasanaeth rheoli eiddo llawn a chymorth parhaus i’r tenant a’r landlord.   

 

I denantiaid, mae’r cynllun yn cynnig llety hir dymor a fforddiadwy yn y sector rhentu preifat. Caiff cymorth a hyfforddiant rheolaidd eu darparu i helpu pobl i gynnal eu tenantiaeth, gan helpu unigolion i fyw’n llwyddiannus ac yn annibynnol mewn llety sefydlog. 

 

Bydd manteision i denantiaid, perchnogion eiddo a’r Cyngor yn sgil y cynllun, ac yn helpu i fynd i’r afael â digartrefedd a phrinder tai yn y sir. Mae hyn yn rhan o gynlluniau uchelgeisiol ehangach gan Gyngor Gwynedd i ddarparu mwy o gefnogaeth i bobl ddigartref, codi mwy o dai cymdeithasol i'w gosod i bobl leol a dod â thai gwag yn ôl i ddefnydd.   

 

Dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd: “Rydym mewn argyfwng tai, ac mae'r galw am gartrefi ar hyn o bryd yn llawer uwch na'r hyn sydd ar gael yng Ngwynedd. Mae dros 700 o bobl yn ddigartref yn y sir ar hyn o bryd ac mae'r opsiynau sydd gennym i'w lletya yn brin iawn.  

 

“Trwy gymryd rhan yn y cynllun mae landlordiaid yn cael y sicrwydd o daliadau rhent gwarantedig, hyd yn oed os ydi’r eiddo yn wag, a hefyd yn cyfrannu at helpu pobl ddigartref i ddod o hyd i lety yn lleol. Mae'n allweddol bod tenantiaid yn derbyn y gefnogaeth y maen nhw ei hangen, a bydd y cynllun hwn yn darparu cefnogaeth i gynnal tenantiaeth yn hir-dymor mewn llety sefydlog. 

 

“Dwi’n annog unrhyw un sydd ag eiddo addas i gymryd rhan yn y cynllun a chysylltu i fynegi diddordeb.” 

 
Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, Julie James AS: “Rydym yn credu y dylai pawb allu byw mewn cartref gweddus a fforddiadwy, felly mae gwella mynediad at dai fforddiadwy tymor hwy yn y sector rhentu preifat yn hanfodol. 

 

“Dyna pam rydyn ni’n buddsoddi £30m yng Nghynllun Lesu Cymru i sicrhau ein bod ni’n rhoi sicrwydd i denantiaid a hyder i berchnogion eiddo.  

 

“Rwy’n croesawu’n fawr yr alwad hon gan Gyngor Gwynedd am fynegiadau o ddiddordeb ac edrychaf ymlaen at glywed bod ymateb cadarnhaol wedi bod i’r cynllun.” 

  

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan y Llywodraeth: Cynllun Lesio Cymru: canllawiau | LLYW.CYMRU 

Llenwch y ffurflen hon i ddechrau cais i gymryd rhan yn y cynllun: Datganiad o ddiddordeb - Cynllun Lesu Cymru (llyw.cymru)