Gwledd Gaeaf yn Storiel, Bangor

Dyddiad: 08/11/2018
gwledd-gaeaf-winter-feast

Os ydych chi'n chwilio am anrheg arbennig, rhywbeth bach yn wahanol ac yn gwerthfawrogi gwaith gan artistiaid a gwneuthurwyr talentog, yna ewch draw i STORIEL, Bangor.

Mae arddangosfa Gwledd Gaeaf yn cynnig amrywiaeth o gelf a chrefftau cain; addurniadau a choed bach Nadolig, gwaith celf mewn neu heb ffrâm, bagiau a lamplenni, gemwaith o bob math a mwy. Cofiwch hefyd bod dewis eang ar gael yn y siop. Cewch groeso cynnes.

Mae ‘Gwledd Gaeaf’ ymlaen hyd at 5 Ionawr 2019. Mae Storiel ar agor 11am – 5pm - Mawrth i Sadwrn.

Llun: Gwledd Gaeaf, Storiel