Trefniadau gwastraff ac ailgylchu yng Ngwynedd dros gyfnod y Nadolig
Dyddiad: 15/12/2022
Ni fydd casgliadau gwastraff yng Ngwynedd ar ddydd San Steffan (26 Rhagfyr), dyma’r unig ŵyl y banc o’r flwyddyn pryd nad ydi criwiau gwastraff Gwynedd yn casglu.
Er mwyn sicrhau nad oes unrhyw gartref yn mynd mwy na thair wythnos heb gasgliad gwastraff (bin olwyn gwyrdd neu sach du), mae Cyngor Gwynedd yn trefnu fod pawb fyddai fel arfer yn cael casgliad ar ddydd Llun, 26 Rhagfyr yn derbyn casgliad ar ddydd Sadwrn, 24 Rhagfyr.
Bydd casgliadau ailgylchu a gwastraff bwyd yn cael ei gynnal yr wythnos ganlynol, ar 2 Ionawr i’r trigolion yma. Er eu bod yn Wyliau Banc, bydd casgliadau biniau olwyn gwyrdd a sachau du, ailgylchu a bwyd yn cael eu cynnal fel arfer ar ddydd Mawrth, 27 Rhagfyr a dydd Llun, 2 Ionawr.
Gan gydnabod fod cyfnod yr Ŵyl yn gallu golygu mwy o sbwriel ac ailgylchu na’r arfer, mae’r Cyngor yn rhoi trefniadau yn eu lle i’w gwneud yn haws i bobl Gwynedd ddefnyddio canolfannau ailgylchu’r sir i gael gwared ar eu sbwriel tymhorol ychwanegol.
Felly, dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, ni fydd angen i drigolion wneud apwyntiad i fynychu canolfannau ailgylchu’r Cyngor.
Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd:
“Er fod llawer y gallwn i gyd ei wneud i ail-ddefnyddio a cheisio torri lawr ar wastraff di-angen wrth brynu dros y Nadolig, rydan ni’n sylweddoli fod cyfnod y dathlu yn gallu golygu fod mwy o sbwriel ac ailgylchu yn hel mewn cartrefi.
“Er mwyn cynorthwyo teuluoedd dros y cyfnod, rydan ni’n annog pobl Gwynedd i wneud y mwyaf o ganolfannau ailgylchu’r Cyngor. I’w gwneud yn haws i drigolion, ni fydd angen gwneud apwyntiad i fynychu canolfannau ailgylchu’r Cyngor yn y cyfnod rhwng 28 Rhagfyr a dydd Sadwrn, 7 Ionawr pan fydd y canolfannau ar agor.
“Ond, mi wyddon ni fod nifer o bobl yn gwneud defnydd o’r canolfannau ar ôl y Nadolig, felly cofiwch nad oes rhaid rhuthro lawr i’r ganolfan ac os welwch chi fod y ganolfan yn brysur ystyriwch ddod yn ôl ar gyfnod distawach. Mae’r canolfannau ar agor o 9am tan 4pm, ond cofiwch wirio ddyddiau agor eich canolfan leol cyn mynd draw.
“Mae cyngor a gwybodaeth am ailgylchu a gwastraff ar gael ar wefan y Cyngor ar www.gwynedd.llyw.cymru/ailgylchu ac mae manylion hwylus am y canolfannau ailgylchu a’ch dyddiadau casglu ar gyfer y flwyddyn hefyd ar gael i’w weld yn hwylus trwy lawrlwytho ‘apGwynedd’ i’ch ffôn glyfar neu declyn llechen.”
Yn ystod y bythefnos ar ôl y Nadolig, ni fydd angen trefnu apwyntiad i fynychu canolfannau ailgylchu Cyngor Gwynedd. Bydd yr holl ganolfannau ar agor o 9am tan 4pm o ddydd Mercher, 28 Rhagfyr tan ddydd Sadwrn, 31 Rhagfyr (sylwer mai dydd Gwener a Sadwrn ydi dyddiau agor canolfannau ailgylchu Y Bala a Blaenau Ffestiniog). Yna yn ystod yr wythnos ganlynol, bydd y canolfannau ailgylchu ar agor o 9am tan 4pm fel arfer (Llun i Sadwrn) heblaw Y Bala a Blaenau Ffestiniog a fydd ar agor ddydd Llun, Gwener a Sadwrn.
Cofiwch mai at ddefnydd trigolion Gwynedd mae’r canolfannau ailgylchu. Yn ystod y cyfnod, ni fydd angen cael trwydded os yn defnyddio fan domestig i gludo deunyddiau i’r ganolfan – ond ni fydd modd gwaredu gwastraff masnachol yn y safleoedd.
Am fwy o wybodaeth am wasanaethau ailgylchu a gwastraff y Cyngor, gan gynnwys oriau agor eich canolfan ailgylchu leol ewch i www.gwynedd.llyw.cymru/ailgylchu neu os nad oes gennych fynediad i’r we, gallwch ffonio 01766 771000.
Nodiadau:
Manylion llawn am oriau agor y canolfannau ailgylchu dros gyfnod y Nadolig yng Ngwynedd:
24 Rhagfyr: pob safle ar agor o 9am tan 1pm (sylwer fod angen trefnu apwyntiad)
25 Rhagfyr – 27 Rhagfyr: pob safle ar gau
28 Rhagfyr: ar agor 9am-4pm – dim angen trefnu apwyntiad (Caergylchu yng Ngaernarfon, Bangor, Dolgellau, Harlech, Pwllheli a Rhwngddwyryd yng Ngarndolbenmaen – sylwer nad ydi canolfannau Y Bala a Blaenau Ffestiniog ar agor ar ddydd Mercher)
29 Rhagfyr: ar agor 9am-4pm – dim angen trefnu apwyntiad (Caergylchu yng Ngaernarfon, Bangor, Dolgellau, Harlech, Pwllheli a Rhwngddwyryd yng Ngarndolbenmaen – sylwer nad ydi canolfannau Y Bala a Blaenau Ffestiniog ar agor ar ddydd Iau)
30 Rhagfyr: ar agor 9am-4pm – dim angen trefnu apwyntiad (pob canolfan ailgylchu)
31 Rhagfyr: ar agor 9am-4pm – dim angen trefnu apwyntiad (pob canolfan ailgylchu)
1 Ionawr: pob safle ar gau
2 Ionawr: ar agor 9am-4pm – dim angen trefnu apwyntiad (pob canolfan ailgylchu)
3 Ionawr: ar agor 9am-4pm – dim angen trefnu apwyntiad (Caergylchu yng Ngaernarfon, Bangor, Dolgellau, Harlech, Pwllheli a Rhwngddwyryd yng Ngarndolbenmaen – sylwer nad ydi canolfannau Y Bala a Blaenau Ffestiniog ar agor ar ddydd Mawrth)
4 Ionawr: ar agor 9am-4pm – dim angen trefnu apwyntiad (Caergylchu yng Ngaernarfon, Bangor, Dolgellau, Harlech, Pwllheli a Rhwngddwyryd yng Ngarndolbenmaen – sylwer nad ydi canolfannau Y Bala a Blaenau Ffestiniog ar agor ar ddydd Mercher)
5 Ionawr: ar agor 9am-4pm – dim angen trefnu apwyntiad (Caergylchu yng Ngaernarfon, Bangor, Dolgellau, Harlech, Pwllheli a Rhwngddwyryd yng Ngarndolbenmaen – sylwer nad ydi canolfannau Y Bala a Blaenau Ffestiniog ar agor ar ddydd Iau)
6 Ionawr: ar agor 9am-4pm – dim angen trefnu apwyntiad (pob canolfan ailgylchu)
7 Ionawr: ar agor 9am-4pm – dim angen trefnu apwyntiad (pob canolfan ailgylchu)
Manylion llawn am casgliadau gwastraff cyffredinol, ailgylchu a gwastraff bwyd dros gyfnod y Nadolig yng Ngwynedd:
Dydd Sadwrn, 24 Rhagfyr – Casgliad gwastraff cyffredinol (bin olwyn gwyrdd/sach ddu) i bawb fyddai fel arfer yn cael casgliad ar ddydd Llun, 26 Rhagfyr
Dydd Llun, 26 Rhagfyr – Dim Casgliadau
Dydd Mawrth, 27 Rhagfyr ymlaen (gan gynnwys dydd Llun, 2 Ionawr) – holl wastraff yn cael ei gasglu yn ôl yr arfer