Ymgynghori ar godi premiwm treth cyngor ar ail gartrefi a thai gwag hir-dymor yng Ngwynedd
Dyddiad: 23/12/2020
Mae Cyngor Gwynedd yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar gynnig i gynyddu’r Premiwm Treth Cyngor ar Ail Gartrefi ac Eiddo Gwag Hirdymor i hyd at 100% ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22.
Ers Ebrill 2018, mae’r Cyngor wedi gosod premiwm treth cyngor o 50% ar yr eiddo yma. Er hynny, mae gwaith ymchwil a gomisiynwyd gan Gabinet y Cyngor ar reoli’r defnydd o dai fel cartrefi gwyliau yn dangos fod niferoedd yn parhau i gynyddu yn y sir.
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi’r grym i gynghorau i godi swm ychwanegol o hyd at 100% dros lefel safonol treth cyngor ar eiddo o’r fath ac mae Cyngor Gwynedd yn awyddus i glywed barn trigolion os y dylid cyflwyno cyfradd uwch o dreth cyngor ar ail gartrefi a thai gwag.
Mae disgwyl y bydd Cyngor Gwynedd yn penderfynu ar ei bolisi dros y misoedd nesaf, ond cyn i gyfarfod o’r Cyngor llawn ystyried y mater mae cyfle rwan i aelodau’r cyhoedd gyflwyno eu sylwadau drwy lenwi holiadur byr.
Meddai’r Cynghorydd Ioan Thomas, Aelod Cabinet Cyllid Cyngor Gwynedd:
“Ers Ebrill 2018, mae’r Cyngor wedi codi 50% yn ychwanegol o dreth cyngor ar berchnogion ail gartrefi a thai gwag, gyda’r arian yma yn cael ei glustnodi ar gyfer cynlluniau tai yma yng Ngwynedd.
“Mae gwaith ymchwil diweddar wedi dangos fod sefyllfa tai gwyliau yn fater o argyfwng a bod llawer iawn o bobl Gwynedd yn ei chael yn agos at amhosib i gael troed ar y farchnad dai – i brynu ac i rentu. Y gwir ydi fod prisiau tai uchel yn sgil y galw am unedau gwyliau ac ail gartrefi yn gwthio prisiau ymhell y tu hwnt i afael pobl leol mewn nifer cynyddol o’n trefi a phentrefi.
“Rydym felly yn falch fod arian sydd wedi ei sicrhau trwy’r premiwm treth cyngor wedi ei glustnodi ar gyfer Cynllun Gweithredu Tai Gwynedd fydd yn anelu at gefnogi pobl Gwynedd i gael mynediad i dai addas yn ein cymunedau.
“Mae hawl gan y Cyngor i godi 100% o bremiwm ail dai ar ail gartrefi ac eiddo sydd wedi bod yn wag am gyfnod o amser. Felly rydym yn awyddus i glywed barn trigolion Gwynedd, perchnogion ail gartrefi ac eiddo sydd wedi bod yn wag am gyfnod ar y ffordd ymlaen.”
Mae’r cyfnod ymgynghori ar agor tan 1 Chwefror 2021. I gymryd rhan, ewch i: www.gwynedd.llyw.cymru/YmgynghoriadPremiwm neu am gopi papur, ffoniwch 01766 771000.