Sgamiau E-byst a Negeseuon Testun DPD / Post Brenhinol

Dyddiad: 04/12/2020

Mae Safonau Masnach Cyngor Gwynedd yn rhybuddio’r cyhoedd i fod yn wyliadwrus o e-byst a negeseuon destun yn honni eu bod gan DPD neu’r Bost Brenhinol.

Gyda mwy a mwy ohonom yn ddibynnol ar siopa ar-lein a nwyddau yn cael eu gyrru'n syth i’r cartref, gall sgamwyr yn cymryd mantais o hyngan anfon e-byst sy’n rhoi’r argraff eu bod gan gwmni danfon DPD neu’r Post Brenhinol. 

Mae’r negeseuon yn aml yn gofyn i chi glicio ar linc i gwblhau manylion bellach er mwyn ail drefnu casgliad.

Gwiriwch y cyfeiriad ebost sydd wedi anfon y neges – os ydi o wedi dod gan ebost personol mae’n debyg o fod yn sgam.  

Byddwch yn ofalus o unrhyw gyfeiriadau e-bost a rhifau ffôn dieithr. Peidiwch byth a chlicio na agor atodiadau dieithr. Gwiriwch fanylion cyswllt y cwmni a chysylltwch â hwy yn uniongyrchol os yn amheus. Plîs rhannwch yr wybodaeth a’ch ffrindiau, perthnasau a chymdogion yn ogystal ag ar y cyfryngau cymdeithasol.

 

Am fwy o wybodaeth, ewch i:

https://www.citizensadvice.org.uk/consumer/scams/check-if-something-might-be-a-scam/

https://www.nationaltradingstandards.uk/news/wise-up-to-the-web-avoid-being-conned-by-deceptive-websites/