Casgliadau gwastraff dros y Nadolig yng Ngwynedd
Dyddiad: 16/12/2020
Diwrnod Nadolig a Gŵyl San Steffan ydi’r unig ddau ddiwrnod o’r flwyddyn pan nad ydi casgliadau gwastraff ac ailgylchu arferol Cyngor Gwynedd yn cael eu cynnal.
Mae’r Cyngor yn gwerthfawrogi y gall hyn achosi niwsans i’r rheini fyddai fel arfer yn cael casgliad ar ddydd Gwener, 25 Rhagfyr neu ddydd Sadwrn, 26 Rhagfyr. Dyma pam fod trefniadau arbennig wedi eu gwneud i gasglu gwastraff gweddilliol (bin gwyrdd neu fagiau du) yn y dyddiau yn dilyn y Nadolig er mwyn gwneud yn siŵr nad oes neb yn mynd mwy na thair wythnos heb gasgliad.
Bydd rheini fydd yn methu casgliad gwastraff gweddilliol ar ddydd Nadolig a San Steffan yn derbyn casgliad ar ddydd Llun, 28 Rhagfyr 2020, gyda chasgliadau ailgylchu a gwastraff bwyd yr wythnos ganlynol.
Er ei bod yn wyl banc, bydd casgliadau arferol i bawb fydd yn cael casgliad ar ddydd Gwener, 1 Ionawr 2021.
Bydd rhwydwaith canolfannau ailgylchu Cyngor Gwynedd yn agored dros gyfnod yr Wyl i helpu trigolion ailgylchu a chael gwared ar eu sbwriel tymhorol ychwanegol yn gyfleus a didrafferth.
Cofiwch fod angen trefnu apwyntiad o flaen llaw i fynychu’r canolfannau ailgylchu a fydd ar agor tan hanner dydd ar 24 Rhagfyr, ac yna yn ail-agor ar ddydd Llun, 28 Rhagfyr. Bydd y canolfannau ar gau ar Ddydd Calan ac yna ar agor ar ddydd Sadwrn, 2 Ionawr. Mae manylion llawn eich canolfan leol a sut i drefnu apwyntiad ar gael ar ‘apGwynedd’ ar eich ffôn clyfar neu ddyfais llechen neu trwy fynd i www.gwynedd.llyw.cymru/ailgylchu
Dywedodd y Cynghorydd Catrin Wager, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros faterion Priffyrdd a Bwrdeistrefol:
“Mae llawer y gall pob un ohonom ei wneud i ail-ddefnyddio eitemau a meddwl sut y gallwn troi dalen newydd yn 2021 a cheisio torri lawr ar yr hyn yr ydym yn ei daflu. Fel Cyngor byddwn yn edrych i lansio cynlluniau cyffrous yn fuan yn y flwyddyn newydd er mwyn annog ail-ddefnyddio llawer mwy o eitemau yn hytrach na lluchio’r hyn sydd wedi gweld dyddiau gwell yn syth i’r bin.
“Wrth gwrs, rydan ni’n sylweddoli bod dathliadau’r Nadolig yn gallu golygu fod mwy o sbwriel ychwanegol na’r arfer ond mi allwn ni i gyd wneud ein rhan dros yr amgylchedd dros gyfnod yr Ŵyl. Rydan ni felly’n annog trigolion i wneud defnydd o’n canolfannau ailgylchu ac i drefnu apwyntiad os byddwch angen.
“Mae trefnu apwyntiad i fynychu’r canolfannau yn rhwydd iawn ar wefan y Cyngor ar www.gwynedd.llyw.cymru/ailgylchu ac mae manylion hwylus am y canolfannau ailgylchu a’ch dyddiadau casglu ar gyfer y flwyddyn hefyd ar gael i’w weld yn rhwydd trwy lawrlwytho ‘apGwynedd’ i’ch ffon glyfar neu declyn llechen.”
Meddai Steffan Jones, Pennaeth Priffyrdd a Bwrdeistrefol Cyngor Gwynedd:
“Mae’r manylion llawn am eich trefniadau gwastraff ac ailgylchu i gyd i’w weld yn hwylus arlein. Felly fel rhan o ymdrechion i dorri lawr ar y defnydd o bostio ac argraffu, ni fyddwn yn postio calendrau gwastraff ac ailgylchu 2021 i holl gartrefi’r sir.
“Gallwch wirio eich trefniadau casglu trwy lawrlwytho ‘apGwynedd’ ar eich ffôn glyfar neu weld copi digidol o’ch calendr casglu am y flwyddyn drwy deipio eich codpost ar y wefan www.gwynedd.llyw.cymru/lledwinbyw ac os ydych yn dewis, gallwch argraffu copi eich hun.
“Os oes gennych unrhyw gwestiynau na allwch gael ateb iddyn nhw ar-lein, cysylltwch gyda ni ar 01766 771000.”