PROSIECT ARLOESOL £40,000 YN CAEL EI LANSIO GAN ELUSEN GISDA I ATAL DIGARTREFEDD POBL IFANC YNG NGWYNEDD

Dyddiad: 27/12/2019
Gisda-3

Mae prosiect arloesol gwerth £40,000 yn cael ei lansio er mwyn helpu i atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc yng Ngwynedd, yn dilyn cynnydd enfawr o 575% mewn achosion dros yr 20 mlynedd diwethaf.

Mae elusen cymorth i'r digartref GISDA wedi cael ei chomisiynu gan Gyngor Gwynedd mewn ymgais i gyrraedd pobl ifanc mewn argyfwng, cyn iddynt ddod yn ddigartref.

Dywedodd y Cynghorydd Dilwyn Morgan, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Blant a Phobl Ifanc: “Pan fyddwn ni’n siarad am ddigartrefedd, efallai y byddwn ni’n aml yn meddwl am bobl sy’n byw ar y strydoedd mewn dinasoedd mawr. Ond y gwir amdani efallai ydi nad oes gan nifer o bobl ifanc gartref parhaol a’u bod nhwn syrffio soffa ac yn byw dros dro gyda ffrindiau neu berthnasau.

“Rydym eisiau helpu ein pobl ifanc fel eu bod nhw’n gwbl ymwybodol o’r help a’r gefnogaeth sydd ar gael iddyn nhw yma yng Ngwynedd. Trwy ymgysylltu efo pobl ifanc mor gynnar â phosib, rydym am ddangos iddyn nhw nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain ac mae’n iawn idyn nhw ofyn am help.

“Rwy’n falch iawn ein bod ni’n gweithio efo GISDA ar y prosiect arloesol hwn ac yn edrych ymlaen at weld y gwaith yn dod yn ei flaen.”

Mae tîm GISDA, sydd â chanolfannau yng Nghaernarfon a Blaenau Ffestiniog, wedi gweithio gyda mwy na 2,000 o bobl ifanc yn ystod y pum mlynedd diwethaf, gan eu helpu gyda thai neu lety hostel, materion ariannol, cymorth iechyd meddwl, a sgiliau bywyd.

Mae’r elusen wedi gweld cynnydd syfrdanol yn nifer y bobl ifanc sy’n cael eu hatgyfeirio ac yn hunan-atgyfeirio am gefnogaeth yn ystod y ddau ddegawd diwethaf, gan gefnogi 561 o bobl ifanc rhwng mis Ebrill 2018 a mis Ebrill 2019, o’i gymharu ag 83 o atgyfeiriadau yn y flwyddyn 2000, sef cynnydd o 575%.

Bydd y prosiect atal digartrefedd arloesol, a ariennir gan adran gwasanaethau ieuenctid Cyngor Gwynedd, yn gweld plant ysgol ac oedolion ifanc 16-24 oed yn cael mynediad i weithdai am ddim mewn ysgolion, a thrwy brosiectau ieuenctid a chymunedol.

Bydd y sesiynau rhyngweithiol yn rhoi cipolwg ar realiti llym bywyd fel person digartref, y rhesymau pam fod pobl yn ddigartref - yn aml oherwydd bod teulu’n chwalu, ble i droi am help, a rhai o’r sgiliau bywyd sydd eu hangen fel sut i fyw ar gyllideb.

Y nod yw codi ymwybyddiaeth o’r gefnogaeth sydd ar gael i’r rhai sydd mewn argyfwng, mewn ymgais i annog pobl ifanc i ofyn am help yn gynharach.

Bydd gweithwyr cymorth GISDA yn cynnal y sesiynau ar y cyd gydag athrawon a gweithwyr ieuenctid ledled y sir.

Un aelod o’r tîm yw’r Rheolwr Gwasanaeth Cymorth, Andy Smalley, sydd eleni’n nodi deng mlynedd o weithio gyda GISDA. Bu Andy ei hun yn derbyn cefnogaeth gan yr elusen, pan adawyd ef mewn perygl o fod yn ddigartref ar ôl colli ei ddau riant ac yntau ond yn bedair ar ddeg oed.

Mi wnaeth Andy, sydd bellach yn 39, roi’r gorau i’w yrfa fel cogydd ddegawd yn ôl er mwyn gweithio gyda’r elusen ac mae wedi gweld drosto ei hun y cynnydd yn nifer yr achosion.

Meddai: “Mi wnes i glywed am GISDA gyntaf oherwydd eu bod nhw wedi fy helpu i pan oeddwn yn fy arddegau. Collais fy ddau riant, bu farw fy nhad o drawiad ar y galon ac yn fuan ar ôl hynny mi aeth fy mam yn sâl iawn, cafodd ei chludo i’r ysbyty a bu farw o waedlif ar yr ymennydd.

“Roeddwn i’n 14 oed ac roedd fy chwaer yn 16 oed ac roeddem mewn perygl o fod yn ddigartref. Dim ond oherwydd y gefnogaeth a gawsom gan GISDA ar y pryd y gwnaethon ni lwyddo i aros yn ein cartref. Oherwydd mi wnaeth GISDA gymryd drosodd denantiaeth fy rhieni er mwyn ein cadw ni o fewn ein cartref teuluol. Roedd fy ngweithiwr cymorth o GISDA yn hollol wych, roedd yn fodel i’w ddilyn ac yn un o’r ychydig bobl a oedd yn real ac yn onest efo mi bryd hynny. Rhoddodd GISDA gefnogaeth i ni gyda chynnal a chadw’r tŷ, gwneud ein cartref ein hunain, cadw ar ben biliau, a llawer o gefnogaeth emosiynol hefyd.”

Ychwanegodd Andy: “Mae tyfu i fyny heb gefnogaeth eich rhieni yn brofiad sy’n gwneud chi’n ynysig. Dydach chi ddim yn ymddiried yn neb ac rydych chi’n teimlo’n ar eich pen eich hun go iawn, yn teimlo nad yw eich sefyllfa chi’n mynd i newid ac nad yw bywyd yn mynd i fod yn haws “

Ychwanegodd: “Rwy’n cofio gyda fy chwaer, byw efo rhew ar y tu mewn i’r ffenestri yn methu â chynhesu ein cartref. Mynd am ddyddiau bob wythnos heb bethau sylfaenol fel bwyd a thrydan.”

“Dylai pethau fod yn wahanol yn 2020.”

O’r 561 o bobl ifanc sydd wedi cael eu cefnogi gan GISDA o fis Ebrill 2018 hyd at Ebrill 2019, roedd 58% yn ddigartref oherwydd bod teulu neu berthynas wedi chwalu, ac fe wnaeth 52% o bobl ifanc estyn allan am help eu hunain drwy hunan-atgyfeirio.

Roedd mwy na’u hanner, sef 51% yn dweud bod ganddyn nhw fater iechyd meddwl, roedd 45% yn syrffio soffa a 5% yn byw ar y stryd.

Dywed GISDA mai’r rhesymau mwyaf cyffredin y mae pobl ifanc yn gadael cartref yw oherwydd chwalfa mewn perthynas neu anghytundeb teuluol, gyda’r grwpiau risg uchaf yn rai sy’n gadael gofal, pobl LHDT a’r rhai sydd wedi cael eu mabwysiadu.

Dywedodd Andy: “Mae bywyd yn dod yn anodd iawn unwaith y bydd pobl yn ddigartref, gall pobl droi at droseddu, a dibyniaeth ar sylweddau er mwyn ymdopi efo’u sefyllfa.

“Mae bywyd yn mynd yn lle unig ac ynysig iawn sy’n cael effaith ar iechyd emosiynol a meddyliol pobl ac ar adegau yn arwain pobl i feddwl am ladd eu hunain i ddianc rhag eu hamgylchiadau.

“Mae’n dod yn anodd iawn i bobl ddod o hyd i waith, cadw a llwyddo mewn swydd pan fydd ganddyn nhw gymaint o gymhlethdodau yn eu bywydau. Gall cael mynediad at fudd-daliadau fod yn gymaint o her. Rwy’n deall bod pobl ar adegau eisiau dianc o’r bywyd hwn a throi at fywyd o gyffuriau ac alcohol i ddianc o’r anhrefn.

“Yn aml mae ofn mawr arnyn nhw.”

Wrth groesawu’r cyllid gan Gyngor Gwynedd, dywedodd Andy: nod y prosiect yw annog pobl ifanc i gael gafael ar gymorth yn gynt, er mwyn ceisio lleihau effeithiau argyfwng o’r fath ar eu bywydau.

Meddai: “Rydym yn croesawu’r cyllid hwn er mwyn helpu atal cynnar a chodi ymwybyddiaeth o sut i gael gafael ar gymorth. Mae’n bwysig bod pobl yn teimlo’n gyffyrddus i gael mynediad at wasanaethau. Rydym hefyd eisiau sicrhau bod y neges yn cael ei chyfleu i blant yn y ffordd iawn. Mae’n fodolaeth eithaf llwm, felly rydan ni am adael i bobl ifanc wybod sut beth yw bywyd a pha mor heriol, ynysig a brawychus y gall fod.

Ychwanegodd: “Mae cysgu ar y stryd yn broblem yng Ngwynedd, nid yw mor weladwy ond rydyn ni’n ei weld, er bod y niferoedd yn llawer llai nag mewn dinasoedd mawr. Mae llawer o’r bobl rydyn ni’n eu cefnogi yn cael eu galw’n ddigartref cudd, mewn llety anaddas, hosteli dros dro neu syrffio soffa.

“Rwy’n cofio un cwpl ifanc y gwnaethon ni eu helpu a oedd yn cysgu mewn car, oherwydd nad oedden nhw eisiau i unrhyw un eu gweld neu wybod nad oedd ganddyn nhw unrhyw le i aros oherwydd y stigma sydd ynghlwm â ​​bod yn ddigartref.”

Dywedodd Sian Tomos, prif swyddog gweithredol GISDA: “Rydan ni wrth ein boddau ein bod wedi derbyn yr arian hwn trwy Gyngor Gwynedd.

“Bydd hyn yn ein galluogi i newid i ddull mwy ataliol o fynd i’r afael â’r cynnydd mewn digartrefedd ymhlith pobl ifanc yn ein sir.

“Bydd yn ein galluogi i redeg ymgyrch gydlynol dros y pedwar mis nesaf, i wneud pobl ifanc yn ymwybodol o’r gefnogaeth sydd ar gael a gwybod beth i’w wneud os ydyn nhw byth yn y sefyllfa lle maen nhw’n teimlo eu bod nhw’n cael eu gorfodi i adael cartref.”

Ychwanegodd Sian: “Rydan ni’n gweld mwy a mwy o bobl ifanc yn dod trwy ein drysau bob blwyddyn. Yn aml mae hyn oherwydd bod pobl yn ffraeo efo’u teulu, ac mae ganddyn nhw lawer o orbryder ac efallai yn anodd iawn gwneud efo nhw.

“Mae hwn yn fater sy’n digwydd ym mhobman, nid dim ond yng Ngwynedd.

“Mae hon yn broblem gronig, wedi’i gwaethygu gan lymder, newidiadau i’r system fudd-daliadau, a diffyg tai cymdeithasol, yn enwedig cartrefi un ystafell wely. Mae angen i ni newid o ddull adweithiol i ddull ataliol.

“Unwaith y bydd pobl yn dod yn ddigartref maen nhw’n fwy agored i broblemau iechyd meddwl ac mi allan nhw fod yn fwy tebygol o adael yr ysgol, coleg neu waith ac yna wynebu problemau wrth gael gafael ar fudd-daliadau a llawer o faterion eraill.

Ychwanegodd Sian: “Yr hyn sy’n bwysig yn y gwaith hwn yw sicrhau os oes gennych chi blentyn yn ei arddegau sy’n agored i niwed ac sy’n ysu am adael cartref, ei fod yn gwybod beth yw’r gefnogaeth sydd ar gael a ble i fynd i ddod o hyd iddo.

“Rydan ni hefyd eisiau addysgu plant am sut beth yw bywyd os ydych chi’n gadael cartref, nid yw’n opsiwn hawdd.

“Mae angen i ni ddod o hyd i ffyrdd gwell o roi’r wybodaeth a’r sgiliau iddyn nhw i gael cefnogaeth, ond hefyd cyfleu’r neges i bobl ifanc ynglŷn â pha mor anodd yw bywyd ar ôl i chi ddod yn ddigartref, ac nad yw’n opsiwn hawdd.

“Rydan ni hefyd eisiau rhoi gwybod iddyn nhw y gall hynny ddigwydd i unrhyw un, a pheidio â theimlo cywilydd ond gwybod ble i fynd am help.”

“Byddwn yn edrych yn ofalus ar yr ymatebion i’n gwaith i weld beth arall y gallwn ei wneud i gefnogi pobl ifanc.”

Sefydlwyd GISDA yn 1985 i ddarparu llety, cefnogaeth a chyfleoedd i bobl ifanc agored i niwed yng Ngwynedd rhwng 16 a 25 oed.

Mae’r sefydliad yn cefnogi pobl ifanc ddigartref a’u teuluoedd ledled Gwynedd gan gynnwys pobl ifanc sengl, rhieni sengl, mamau beichiog, cyplau a theuluoedd.

Yn wreiddiol roedd yr enw GISDA yn sefyll am ‘Grŵp Ieuenctid Sengl Digartref Arfon’.

Mae prosiectau parhaus yr elusen yn cynnwys cefnogi rhieni ifanc, codi ymwybyddiaeth o ddigartrefedd ar draws ysgolion, dod o hyd i lety i bobl ifanc a’i ddarparu, a’u cefnogi wrth iddynt symud i gyflogaeth.

Mae amrywiol fentrau cymdeithasol yr elusen, fel ein caffi yng nghanol tref Caernarfon, yn darparu cyfleoedd pellach i bobl ifanc.

Mae’r elusen hefyd yn darparu llety i bobl ifanc yng Nghaernarfon, Y Felinheli, Llanrug a Blaenau Ffestiniog, ynghyd â llety a rennir yn Nolgellau.

I gael mwy o wybodaeth am y prosiect hwn neu wybodaeth am weithdy digartrefedd am ddim, cysylltwch â Steffan Williams i drefnu ar 01286 671153.

I gael mwy o wybodaeth am waith GISDA ewch i: www.gisda.org/

Llun: Tîm Gisda o'r chwith - Nicola Brown, Elan Mair, Andrew Smalley, Sian Elen Tomos, Steffan Williams, Bethan Williams a Lyndsey Thomas.