Agor y Gist – Cist Gwynedd 2023/2024

Dyddiad: 01/06/2023

Grantiau cyfalaf a refeniw ar gael i grwpiau cymunedol a gwirfoddol Gwynedd

Mae grwpiau gwirfoddol a chymunedol Gwynedd yn cael eu hannog i ystyried gwneud cais am grantiau refeniw a chyfalaf fydd yn cefnogi amrywiol brosiectau fydd yn arwain at wella safon bywyd trigolion a chymunedau’r sir.

Mae Cronfa Cefnogi Cymunedau yn cynnig grantiau o hyd at £10,000 i annog cymunedau i wireddu’r amcanion hyn drwy gymryd rôl fwy rhagweithiol yn eu cymunedau.

Yn ogystal, mae Cronfa’r Degwm yn cynnig grantiau hyd at £3,000 i elusennau cofrestredig. Mae canran o’r Gronfa yn cael ei ddosbarthu i eisteddfodau lleol yng Ngwynedd, sef swm o £300, a dylid ymgeisio drwy yrru e-bost i Gist Gwynedd (CistGwynedd@gwynedd.llyw.cymru)

Mae pecynnau ymgeisio ar gyfer y cronfeydd yma ar gael ar wefan Cyngor Gwynedd: www.gwynedd.llyw.cymru/grantiaucistgwynedd

Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd sy’n arwain ar y maes Economi a Chymunedau: “Mae grantiau Cist Gwynedd yn cefnogi amrywiaeth o brosiectau sy’n arwain at gryfhau cymunedau ledled y sir. Dyma gyfle i’n trigolion wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eu cymunedau eu hunain.”

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau ar gyfer y Gronfa Cefnogi Cymunedau a Chronfa’r Degwm yw’r 3 Gorffennaf 2023.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch gyda swyddfa Cist Gwynedd ar 01286 679 153, neu drwy e-bostio: CistGwynedd@gwynedd.llyw.cymru