Ymgynghori ar Gynllun Gwella Hawliau Tramwy Cyngor Gwynedd

Dyddiad: 28/06/2022
1

Mae Cyngor Gwynedd yn awyddus i glywed barn pobl y sir a mudiadau ar flaenoriaethau ar gyfer llwybrau a hawliau tramwy dros y blynyddoedd nesaf.

Mae’r Cyngor wedi paratoi Cynllun Gwella Hawliau Tramwy sydd yn gosod cyfeiriad i gwrdd ag anghenion cerddwyr, pobl gydag amhariad symudedd, beicwyr a marchogwyr ceffylau yn ogystal â chyfarch yr heriau i gynnal llwybrau ac i’w cadw ar agor.

Mae’r ddogfen yn gosod cyfeiriad a blaenoriaethau ar gyfer y maes gwaith am y cyfnod hyd at 2028/29 ac mae’r Cyngor yn awyddus i dderbyn sylwadau gan drigolion a chynrychiolwyr mudiadau am y ddogfen drwy lenwi holiadur sydd nawr ar agor.

Mae copi o’r Cynllun Gwella Hawliau Tramwy a’r holiadur sy’n cyd-fynd ar gael:

  • ar-lein drwy ymweld â: www.gwynedd.llyw.cymru/CynllunHawliauTramwy
  • neu mae copïau papur ar gael o’r llyfrgell neu Siop Gwynedd lleol.
  • Gallwch hefyd ffonio Galw Gwynedd ar 01766 771 000 i ofyn am gopi papur o’r Cynllun a’r holiadur drwy’r post.

 

Meddai’r Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd:

“Mae’r Cyngor yn gyfrifol am rwydwaith hawliau tramwy’r sir, sydd tua 2,360 milltir (3,800km) o hyd, yn ogystal â llwybrau poblogaidd fel y Lonydd Glas. 

“Mae’r rhwydwaith yma yn galluogi mynediad i gefn gwlad, i’r arfordir a mannau gwyrdd trefol ac rydym wedi gweld pa mor bwysig yw ein llwybrau i lesiant pobol yn ystod cyfnod COVID-19. Yn ogystal a hyn, mae’r rhwydwaith hefyd yn adnodd sy’n cael defnydd helaeth gan ymwelwyr i’r ardal ac yn galluogi teithio di-draffig - er enghraifft i’r ysgol neu gwaith.

“Mae drafft o Gynllun Gwella Hawliau Tramwy wedi ei baratoi sy’n gosod cyfeiriad ac amcanion fydd yn cael eu defnyddio i flaenoriaethu adnoddau ac i lunio rhaglenni gwaith am gyfnodau o hyd at dair blynedd ar y tro.

“Rydan ni yn awyddus i glywed barn y  cyhoedd am y Cynllun drafft yma er mwyn cytuno ar flaenoriaethau clir ar gyfer gwella hawliau tramwy yng Ngwynedd dros y blynyddoedd nesaf.

“Rwyf felly’n annog unigolion a chynrychiolwyr mudiadau i gynnig sylwadau ar y ddogfen drafft drwy’r lenwi’r holiadur Cynllun Gwella Hawliau Tramwy. Bydd yr adborth yn cael ei ddefnyddio i baratoi'r Cynllun Gwella Hawliau Tramwy Cyngor Gwynedd terfynol a fydd yn weithredol hyd at 2028/29.”

Mae dyddiad cau yr ymgynghoriad wedi'i ymestyn tan 30 Medi 2022.