Llwyfannu drama newydd am Lloyd George

Dyddiad: 14/06/2022
Carwyn Jones - LLG

Fel rhan o ddathliadau Cyfeillion Amgueddfa Lloyd George yn 25 mlwydd oed, mae drama arbennig newydd wedi ei chreu yn seiliedig ar fywyd y cyn-Brif Weinidog o Lanystumdwy.

Derbyniodd Amgueddfa Lloyd George grant Gaeaf Llawn Lles gan Lywodraeth Cymru, drwy Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Cymru i greu’r ddrama, ‘Dai’ yn seiliedig ar fywyd David Lloyd George.

Mi fydd perfformiad cyntaf y ddrama yn digwydd yn y Neuadd yn Llanystumdwy ar 23 Mehefin. Yn dilyn y ddrama, bydd sesiwn cwestiwn ac ateb gyda Manon Steffan Ros a’r dramodydd Mari Elen yn arwain y sgwrs ar y broses o ffurfio’r ddrama gyda  myfyrwyr Coleg Meirion-Dwyfor. Yn ogystal, bydd cyfle i’r gynulleidfa hefyd ymuno â’r trafod.

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Nia Jeffreys:

“Er bod bron i ganrif ers i Lloyd George fod yn Brif Weinidog, roeddem am sicrhau fod y ddrama yn berthnasol i ni heddiw. Dyna pam y aethpwyd  ati i gael barn pobl ifanc oedd ar drothwy defnyddio eu pleidlais gyntaf.

“Mae mewnbwn myfyrwyr Coleg Meirion Dwyfor Pwllheli wedi bod yn bwysig wrth i’r dramodydd Manon Steffan Ros fwrw ati i ddatblygu’r stori a chreu’r ddrama, a fydd yn serennu’r actor Carwyn Jones.”

Meddai Megan Corcoran, Cydlynydd Amgueddfeydd Cyngor Gwynedd:

“Rydym yn edrych ymlaen yn arw at y perfformiad cyntaf o ddrama Dai.

“Mae’r gwaith wedi bod yn bosib ar ôl sicrhau grant Gaeaf Llawn Lles fel rhan o waith o gefnogi prosiectau sy’n cefnogi a chyfoethogi bywydau pobl ifanc Cymru yn dilyn y pandemig.

“Mae’r grant yma wedi cael ei ddefnyddio i ddatblygu a chreu drama un-dyn yn seiliedig ar hanes y Prif Weinidog Lloyd George.”

Mae’r ddrama yn rhan o raglen ehangach y cwmni theatr Mewn Cymeriad.

Mi fydd y perfformiad cyntaf yn cael ei lwyfannu yn Neuadd y Pentref, Llanystumdwy ar 23/06/22 am 7yh. Gellir codi tocyn o Amgueddfa Lloyd George, Llanystumdwy, rhwng dyddiau Llun i Sadwrn, 10:30yb-5yh. Gallwch hefyd ffonio’r amgueddfa ar 01766 522 071 i gadw tocyn.

Mi fydd yna fynediad AM DDIM i’r perfformiad a’r sesiwn holi!

LLUN: Carwyn Jones fel David Lloyd George