Ieuenctid Gwynedd yn derbyn tystysgrif Gwobr Dug Caeredin ar ran Cyngor Gwynedd
Dyddiad: 30/06/2022
Mae Ieuenctid Gwynedd wedi derbyn tystysgrif i gydnabod gwaith gwirfoddol a gwblhawyd gan bobl ifanc Gwynedd fel rhan o wobr Dug Caeredin.
Ymrwymodd pobl ifanc Gwynedd i 1,508 o oriau i wirfoddoli rhwng mis Ebrill 2021 a mis Mawrth 2022, gyda gwerth cymdeithasol o bron i £7,000. Cyflawnwyd llawer o’r oriau hyn gyda chymorth a chefnogaeth Gweithwyr Ieuenctid y Cyngor a gyda diolch hefyd i gymorth ysgolion Gwynedd.
Cwblhawyd nifer o brosiectau yn rhan o’r gwaith gwirfoddol yma, yn cynnwys casglu sbwriel plannu coed a glanhau traethau.
Dywedodd y Cynghorydd Elin Walker Jones, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd sydd â chyfrifoldeb dros Blant a Phobl Ifanc:
“Llongyfarchiadau mawr i’r gwasanaeth am dderbyn y clod hwn, a llongyfarchiadau arbennig i’r bobl ifanc am eu hymroddiad.
“Mae gwirfoddoli yn ffordd wych o ennill profiadau a chwrdd â phobl newydd - mae rhain yn brofiadau gellir eu trosglwyddo wrth wneud cais am addysg bellach neu chwilio am swydd. Byddwn yn annog unrhyw berson ifanc sy’n chwilio am brofiadau gwych fel hyn i gysylltu efo Ieuenctid Gwynedd.
“Mae ein cymunedau yn cael eu cyfoethogi oherwydd gwaith gwirfoddol yn ogystal ac mae fy niolch yn fawr i Weithwyr Ieuenctid Gwynedd am alluogi ein pobl ifanc i gael y profiadau gwerthfawr hyn.”
Mae gwaith gwirfoddol a rhoi i eraill yn rhan bwysig o’r 5 ffordd at les y mae Ieuenctid Gwynedd yn ei flaenoriaethu sydd yn helpu gwella iechyd meddwl a hyrwyddo lles pobl ifanc.
Sefydlwyd Gwobr Dug Caeredin yn 1956 gyda’r pwrpas i osod sialens i bobl ifanc rhwng 14 a 24 oed i ennill safonau o lwyddiant a phrofi amrediad o brofiadau gwahanol – o wasanaethu eu cymunedau i brofi anturiaethau a datblygu a dysgu tu hwnt i’r ystafell ddosbarth.
Mae sawl categori i gyfrannu atynt fel rhan o’r wobr gyda dewisiadau ym mhob adran. Y categorïau hyn yw: Gwirfoddoli, unrhyw weithgaredd corfforol, sgiliau, cynllunio hyfforddi a chwblhau alltaith, ac fel rhan o’r wobr aur mae elfen breswyl.
Am ragor o wybodaeth am beth mae Ieuenctid Gwynedd yn eu cynnig cysylltwch â ieuenctid@gwynedd.llyw.cymru a dilynwch Ieuenctid Gwynedd ar Facebook, Instagram a Twitter.