Dosbarthwr carafanau a chartrefi modur o Wynedd yn euog o drosedd diogelwch

Dyddiad: 24/06/2022

Mae dosbarthwr carafanau a chartrefi modur wedi cael ei orchymyn i dalu £11,211 am gyflenwi cartrefi modur peryglus a troseddu o dan Rheoliadau Diogelwch Cynnyrch Cyffredinol.

Ar 22 Mehefin 2022, cafwyd Evans Caravans Ltd, sy'n gweithredu o ddau leoliad yng Ngwynedd (Penrhyndeudraeth a Chwilog), yn euog gan ynadon o fod wedi bod yn esgeulus a bod y cerbyd yn gallu bod yn beryglus iawn.

Cafodd Evans Caravans Ltd ddirwy o £8,000 a’u gorchymun i dalu gordal dioddefwr o £190 a chostau o £3,021.

Cyflwynwyd yr achos gan Wasanaeth Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Gwynedd, ar ôl i aelod o’r cyhoedd amlygu pryderon am osodiadau nwy a thrydan mewn cartref modur a brynwyd gan Evans Caravans Ltd ar 14 Awst, 2020.

Cynhaliwyd adroddiad archwilio gosodiadau nwy ar y cartref modur gan Gas safe, a nodwyd nifer sylweddol o ddiffygion peryglus gan gynnwys yr adran LPG heb ei selio; nid oedd gan yr adran LPG awyriant digonol a roedd cysylltiadau trydanol agored. Darganfuwyd nad oedd yr awyru ger offer nwy yn foddhaol yn yr aral fyw; nid oedd dyfais goruchwylio fflam wedi'i osod ar bob llosgydd ar yr hob/gril nwy; a chanfuwyd bod ffliw anfoddhaol yn yr oergell nwy nad oedd wedi'i gymeradwyo gan y gwneuthurwr.

Roedd asesiad trydanol o'r cartref modur hefyd yn ystyried bod y gosodiad yn anniogel ac yn beryglus. Roedd y gosodiad trydanol yn agos at y locer cyflenwad nwy; nid oedd yr uned defnyddwyr wedi'i sicrhau yn ei lle, gyda mynediad posibl i derfynellau byw yn yr uned defnyddwyr; nid oedd ceblau trydan wedi'u diogelu'n ddigonol ac nid oedd ganddynt unrhyw amddiffyniad rhag straen; roedd soced wedi'i weirio'n anghywir; nid oedd gan y batri hamdden unrhyw fent ar gyfer nwy hydrogen.

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Adran yr Amgylchedd ar Gyngor Gwynedd:

“Fel Cyngor, mae gennym ddyletswydd i warchod diogelwch trigolion Gwynedd. Dylai defnyddwyr allu bod yn hyderus bod unrhyw gynnyrch y maent yn ei brynu yn cael ei ystyried yn ddiogel.

“Ni fyddwn yn oedi cyn cymryd y camau angenrheidiol yn erbyn busnesau sy’n esgeuluso eu rhwymedigaethau masnachu yn anghyfrifol drwy fethu â chyflenwi nwyddau i’r safon ofynnol a rhoi pobl mewn perygl yn ddiangen.”