Dathlu Wythnos Genedlaethol Gwaith Ieuenctid Yng Nghymru 2022

Dyddiad: 22/06/2022
Ieuenctid Gwynedd
Bydd Cyngor Gwynedd yn nodi dathlu Wythnos Gwaith Ieuenctid 2022 yn ystod wythnos 23-30 Mehefin.

Nod yr wythnos genedlaethol hon yw dathlu cyfraniad Gwaith Ieuenctid i Gwynedd a’n pobl ifanc, a cydnabod cyfraniad Gweithwyr Ieuenctid y Gwasanaeth Ieuenctid a’r draws y Sir tuag at bobl ifanc a chymunedau.

Themâu’r wythnos yw’r 5 Ffordd at Les, sef Cysylltu, Bod yn Fywiog, Bod yn Sylwgar, Dal ati i Ddysgu a Rhoi. Ar gyfer pob diwrnod o’r wythnos bydd y gweithgareddau’n yn canolbwyntio ar un o’r ffyrdd hyn.

Bydd amrywiaeth o weithgareddau ar gael yma yng Ngwynedd – gan gynnwys croesawu’r Eisteddfod ym Mhorthmadog, gweithgareddau mewn ysgolion ac yn y gymuned – yn ogystal â llu o weithgareddau ar-lein. Bydd manylion y gweithgareddau ar gael drwy gyfrifon cyfryngau cymdeithasol Gwasanaeth Ieuenctid Gwynedd dros y dyddiau nesaf.

Dywedodd Steffan Williams, Rheolwr Gwaith Ieuenctid:

“Mae gan gwaith ieuenctid rôl hanfodol yn ein cymunedau. Mae'r buddion y mae yn ei ddarparu ar gyfer pobl ifanc yn syfrdanol.

 “Tra bod llawer o wasanaethau cyhoeddus eraill yn camu i mewn pan fydd problemau’n codi, mae gwasanaethau ieuenctid yn atal cymaint o’r anawsterau hynny rhag digwydd yn y lle cyntaf. 

“Y mae Gwaith Ieuenctid yn darparu y cymorth ar arbenigedd i rhoi sylfaenai yn ei lle i ddyfodol cadarnhaol ir pobl ifanc drwy waith addysgol ymarferol a chymdeithasol. Mae’n lleddfu y rhwystrau ac yn wasanaeth sydd yn rhoi platfform diogel i bobl ifanc i allu rhannu unrhyw faterion sydd yn codi ac diwallu yr anghenion yma.

“Gwaith ieuenctid yw'r gwasanaeth sy'n cefnogi pobl ifanc i ddatblygu fel unigolion, cael mwy o addysg, dod o hyd i waith, a chwarae rhan gadarnhaol mewn cymdeithas. 

“Mae Wythnos Gwaith Ieuenctid yn gyfle gwych i ddathlu rôl a effaith y gwaith sydd yn cael ei wneud ac uchafu cyrhaeddiad ac effaith Gwaith Ieuenctid fel mecanwaith ar gyfer hyrwyddo Ieuenctid, gwaith a phobl ifanc ar lefel genedlaethol.”

I ymuno gyda’r gweithgareddau neu am ragor o wybodaeth am Wythnos Gwaith Ieuenctid,  dilynwch Ieuenctid Gwynedd ar Facebook , Twitter ac Instagram.