Cyflwyno cynlluniau ar gyfer datblygiad tai cyntaf Cyngor Gwynedd ers 30 mlynedd

Dyddiad: 14/06/2022
CoedMawr3

Mae Cyngor Gwynedd wedi cyflwyno cais cynllunio ar gyfer datblygu 10 o dai fforddiadwy canolraddol ar safle hen Ysgol Babanod Coed Mawr, Bangor – y tai cyntaf i’r Cyngor eu hadeiladu ers 30 mlynedd.

Fel rhan o’r cyfnod ymgynghori ar y cais cynllunio, gall trigolion edrych ar y cynlluniau ar wefan y Cyngor a chynnig sylwadau ar y cais. Ewch i www.gwynedd.llyw.cymru/dilynadarganfod, a chwilio am gais rhif: C22/0525/11/LL.

Dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Dai ac Eiddo:

“Mae sicrhau bod cartrefi ar gael i bobl leol yn eithriadol o bwysig ac yn rhan allweddol o’n Cynllun Gweithredu Tai, ac felly rydw i’n hynod o falch bod cynllun Tŷ Gwynedd ar safle Coed Mawr yn symud ymlaen.

“Rydw i’n annog unrhyw un sydd â diddordeb yn yr hyn sydd gan y cynllun yma i'w gynnig ymweld â safle we Tai Teg www.taiteg.org.uk er mwyn gweld a ydynt yn gymwys i gofrestru gyda Tai Teg am dŷ fforddiadwy. Mae rhagor o wybodaeth am gynlluniau eraill tebyg sydd ar y gweill ar y wefan hefyd.”

Bydd y datblygiad hwn, y cyntaf o sawl cynllun i ddod dan faner Tŷ Gwynedd, yn rhoi’r cyfle i bobl leol fyw yn lleol – sef un o brif amcanion Cynllun Gweithredu Tai’r Cyngor.

Bydd pob Tŷ Gwynedd a adeiladir gan y Cyngor yn dilyn pump egwyddor craidd, sef eu bod yn:

  • Fforddiadwy
  • Hyblyg
  • Cynaliadwy
  • Ynni-effeithiol
  • Cynyddu llesiant y trigolion

Mae’r cynlluniau ar gyfer safle Coed Mawr yn cynnwys chwe tŷ tair-llofft a pedwar tŷ dwy-lofft. Bydd y tai dwy-lofft yn cael eu gosod ar rent canolraddol, fydd yn rhoi rhagor o gyfleoedd i fyw yn lleol i’r rheiny nad ydynt yn gymwys ar gyfer tai cymdeithasol, ond sydd hefyd yn ei chael yn anodd prynu neu rentu ar y farchnad agored chwaith.

Y cynllun hwn ym Mangor yw’r cyntaf dan faner Cynllun Tŷ Gwynedd, ac mae’r Cyngor wrthi’n edrych ar safleoedd eraill ar draws y sir, yn benodol yn Nwyfor a Meirionnydd, ar gyfer datblygiadau nesaf Tŷ Gwynedd.

Mae mwy o wybodaeth yma: www.gwynedd.llyw.cymru/tygwynedd