Arweinydd Cyngor Gwynedd yn cadarnhau aelodau'r Cabinet

Dyddiad: 01/06/2022
Dyfrig Siencyn1

Mae Arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, wedi cyhoeddi ei Gabinet newydd yn dilyn yr etholiadau lleol diweddar.

Bydd y Cynghorydd Nia Jeffreys (Dwyrain Porthmadog ) yn Ddirprwy Arweinydd gyda chyfrifoldeb am faterion gweithredol Economi  a phrif raglenni trawsadrannol.

Mae pedwar aelod newydd yn ymuno gyda’r Cabinet, sef: y Cynghorydd Elin Walker Jones (Glyder) fydd yn arwain maes Plant a Phobl Ifanc; y Cynghorydd Menna Jones (Bontnewydd) fydd yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol a Chyfreithiol; y Cynghorydd Beca Brown (Llanrug) yw’r Aelod Cabinet newydd dros Addysg; ac mae’r Cynghorydd Berwyn Parry Jones (Cwm-y-Glo) wedi ei benodi i fod yn gyfrifol am Briffyrdd a Bwrdeistrefol ac Ymgynghoriaeth Gwynedd.

Mae’r Cynghorydd Dafydd Meurig (Arllechwedd) yn parhau yn aelod o’r Cabinet gan arwain ar faes Amgylchedd; bydd y Cynghorydd Craig ab Iago (Pen-y- groes) yn parhau i fod yn gyfrifol am bortffolio Tai ac Eiddo; a’r Cynghorydd Ioan Thomas (Menai – Caernarfon) yn parhau i fod yn Aelod Cabinet dros Gyllid  a Thechnoleg Gwybodaeth.

Mae’r Cynghorydd Dilwyn Morgan (Y Bala) dal fod yn Aelod Cabinet, ac yn symud i fod yn gyfrifol am faes Oedolion, Iechyd a Llesiant.

Dywedodd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn: “Rydw i’n edrych ymlaen at weithio gyda tîm newydd y Cabinet wrth i ni weithio tua’r nod o ddarparu’r gwasanaethau gorau posib i bobl Gwynedd.

“Mae gennym dîm newydd cyffrous sy’n gyfuniad da o leisiau profiadol ac aelodau newydd brwdfrydig. Rydw i hefyd yn hynod falch mai hwn ydi’r Cabinet mwyaf cytbwys o ran merched a dynion i Gyngor Gwynedd erioed ei gael.

“Rydym yn edrych ymlaen at fwrw i’r gwaith pwysig o gyflawni dros gymunedau’r sir.”

Nodiadau:

Dyma restr lawn o aelodau’r Cabinet a’u cyfrifoldebau: 

Aelodau'r cabinet
Swyddogaeth  Deilydd
 Arweinydd y Cyngor  Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn
Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros faterion gweithredol  economi a phrif rhaglenni trawsadrannol  Y Cynghorydd Nia Jeffreys
 Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol  Y Cynghorydd Menna Jones
 Aelod Cabinet Addysg  Y Cynghorydd Beca Brown
 Aelod Cabinet Cyllid  Y Cynghorydd Ioan Thomas
 Aelod Cabinet Amgylchedd  Y Cynghorydd Dafydd Meurig
 Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant  Y Cynghorydd Dilwyn Morgan
 Aelod Cabinet Plant a Theuluoedd  Y Cynghorydd Elin Walker Jones
 Aelod Cabinet Tai ac Eiddo  Y Cynghorydd Craig ab Iago
 Aelod Cabinet Priffyrdd a Bwrdeistrefol ac Ymgynghoriaeth Gwynedd  Y Cynghorydd Berwyn Parry Jones