Gwasanaeth Llyfrgell ar gael yng Ngwynedd o dan reolau newydd
Dyddiad: 25/06/2020
Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru y gall Llyfrgelloedd ailagor o dan reoliadau newydd, mae Cyngor Gwynedd wedi cadarnhau y bydd chwe llyfrgell yn gallu darparu gwasanaeth i’r cyhoedd o 1 Gorffennaf.
Fodd bynnag, bydd y gwasanaeth a gynigir yn wahanol i’r arfer, a bydd rhaid cysylltu gyda’r llyfrgell ymlaen llaw i archebu llyfrau. Bydd y llyfrgell wedyn yn cysylltu gyda’r defnyddwyr pan fydd y llyfrau yn barod i’w casglu, a threfnu amser ar gyfer gwneud hynny.
Ar gyfer y sawl sy’n methu ag ymweld â’u llyfrgell i gasglu llyfrau - am ba bynnag reswm - bydd modd archebu llyfrau ar gyfer eu cludo i’r cartref. Bydd hwn yn wasanaeth i bawb sy’n byw yng Ngwynedd. Unwaith eto, gofynnir i drigolion Gwynedd gysylltu gyda’u llyfrgell er mwyn archebu llyfrau, a bydd un o gerbydau’r Llyfrgell yn galw yn y cartref gyda’r llyfrau hynny unwaith y byddant wedi eu paratoi.
Ar gyfer y bobl hynny oedd yn derbyn y Gwasanaeth Llyfrgell i'r Cartref yn flaenorol, bydd y Cyngor yn ail-gychwyn y gwasanaeth yma ar ei ffurf newydd yn fuan, a bydd gyrwyr yn cysylltu yn uniongyrchol gyda holl ddefnyddwyr y Gwasanaeth Llyfrgell i’r Cartref ymlaen llaw i egluro y drefn newydd.
Meddai’r Cynghorydd Gareth Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd sydd â chyfrifoldeb am lyfrgelloedd: “Rydw i’n hynod o falch y bydd Cyngor Gwynedd yn ail-gyflwyno elfen o’r gwasanaeth llyfrgelloedd.
“Wrth gwrs, bydd y gwasanaeth fydd ar gael i drigolion Gwynedd yn wahanol i’r hyn oedd o cyn i’r llyfrgelloedd gau, ond mae’r drefn newydd wedi ei chynllunio i sicrhau iechyd a lles trigolion a staff tra’n cynnig cyfle i bobl y sir gael mynediad at y cyfoeth o ddeunydd sydd ar gael o’n llyfrgelloedd ni.
“Mi wyddom fod llyfrau yn cynnig cysur arbennig i bobl o bob oed, ac felly mae’n bwysig ein bod yn gallu dechrau’r daith at gyflwyno’r gwasanaeth mewn modd newydd yn cynnwys y gwasanaeth cludo i’r cartref ar gyfer rheini sydd yn methu casglu o’r llyfrgelloedd.
“Yn amlwg, diogelwch defnyddwyr a staff ydi’r flaenoriaeth, a bydd ein llyfrgelloedd yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru ar sut i drin llyfrau llyfrgell, er mwyn helpu diogelwch a llesiant pobl.
“Ein gobaith ydi y bydd y trefniadau newydd yn cynnig cam yn ôl tuag at normalrwydd ar gyfer y nifer o bobl Gwynedd sy’n gwerthfawrogi ein gwasanaeth llyfrgelloedd.”
Dywedodd Nia Gruffydd, Rheolwr Llyfrgelloedd Cyngor Gwynedd: “Mae’r staff wedi bod yn gweithio’n galed i addasu’r gofod llyfrgell a’r trefniadau cludo i’r cartref er mwyn dechrau darparu eitemau llyfrgell i drigolion Gwynedd unwaith eto. Rydym wedi derbyn sawl neges eisoes gan ddefnyddwyr yn dweud eu bod yn colli’r gwasanaeth Llyfrgell, ac wedi darllen eu llyfrau ac eisiau rhywbeth newydd i’w ddarllen.”
Mae sawl ffordd i archebu llyfrau – trwy ffonio, e-bost neu ddefnyddio’r ffurflen archebu ar dudalen gwe Llyfrgelloedd Gwynedd www.gwynedd.llyw.cymru/llyfrgell. Byddwn angen eich enw, cyfeiriad, rhif ffon a rhif cerdyn.
Os nad ydych yn aelod Llyfrgell yn barod, yna gallwch ymaelodi ar-lein neu ffonio’r gwasanaeth.
Y Llyfrgelloedd a fydd yn darparu gwasanaeth fydd: Llyfrgell Caernarfon, Llyfrgell Bangor, Llyfrgell Pwllheli, Llyfrgell Blaenau Ffestiniog, Llyfrgell Dolgellau a Llyfrgell Tywyn. Bydd yr oriau arferol wedi newid. Dyma’r manylion cysylltu isod.
|
Llun
|
Mawrth
|
Mercher
|
Iau
|
Gwener
|
Llyfrgell Caernarfon
01286 679463
LlCaernarfon@gwynedd.llyw.cymru
|
9am-10am
4pm-5pm
|
9am-10am
4pm-5pm
|
9am-10am
4pm-5pm
|
9am-10am
4pm-5pm
|
9am-10am
4pm-5pm
|
Llyfrgell Bangor
01248 353479
LlBangor@gwynedd.llyw.cymru
|
9am-10am
4pm-5pm
|
9am-10am
4pm-5pm
|
9am-10am
4pm-5pm
|
9am-10am
4pm-5pm
|
9am-10am
4pm-5pm
|
Llyfrgell Blaenau Ffestiniog
01766 830415
LlBlaenau@gwynedd.llyw.cymru
|
Ar Gau
|
Ar Gau
|
9.30am-10am
12pm-1pm
4pm-5pm
|
9.30am-10am
12pm-1pm
4pm-5pm
|
9.30am-10am
12pm-1pm
4pm-5pm
|
Llyfrgell Pwllheli
01758 612089
LlPwllheli@gwynedd.llyw.cymru
|
9.30am-10am
12pm-1pm
4pm-5pm
|
Ar Gau
|
9.30am-10am
12pm-1pm
4pm-5pm
|
Ar Gau
|
9.30am-10am
12pm-1pm
4pm-5pm
|
Llyfrgell Dolgellau
01341 422771
LlDolgellau@gwynedd.llyw.cymru
|
10am-12pm
|
10am-12pm
|
Ar Gau
|
10am-12pm
|
10am-12pm
|
Llyfrgell Tywyn
01654 710104
LlTywyn@gwynedd.llyw.cymru
|
10am-12pm
3pm-4.30pm
|
10am-12pm
3pm-4.30pm
|
Ar Gau
|
Ar Gau
|
10am-12pm
3pm-4.30pm
|
Llyfrgell Porthmadog
Llyfrgell Penygroes
|
Cysylltwch gyda Llyfrgell Caernarfon
|
Llyfrgell Y Bala, Llyfrgell Abermaw
|
Cysylltwch gyda Llyfrgell Dolgellau
|
Llyfrgell Gymunedol Dyffryn Ogwen
|
Cysylltwch gyda Llyfrgell Bangor
|
Llyfrgell Nefyn
Llyfrgell Cricieth
|
Cysylltwch gyda Llyfrgell Pwllheli
|
Archebu llyfrau penodol trwy’r catalog ar-lein
|
www.gwynedd.llyw.cymru/catalogllyfrgell
|
Archebu detholiad o lyfrau trwy’r ffurflen ar-lein
|
www.gwynedd.llyw.cymru/llyfrgell
|
Rhai pwyntiau pwysig i’w cadw mewn cof:
- Mae modd archebu ystod o ddeunyddiau gan y Gwasanaeth Llyfrgell, yn cynnwys llyfrau Print Bras a Llyfrau Llafar, yn Gymraeg a Saesneg. Mae gennym hefyd Bag Books sy’n wych ar gyfer rhoi profiad stori aml-synhwyraidd, ac sy’n addas i rai gydag anawsyterau neu anableddau dysgu. Yn ystod y cyfnod hwn hefyd mae DVDs ar gael yn rhad ac am ddim.
- Nid ydym yn codi dirwyon ar unrhyw eitem.
- Peidiwch poeni am y cyfnod benthyg a dychwelyd llyfrau – rydym yn adnewyddu eich llyfrau yn otomatig.
- Cofiwch fod modd benthyg e-lyfrau ac e-lyfrau llafar trwy ein gwasanaeth digidol Borrowbox
- Ni fydd rhai gwasanaethau ar gael ar hyn o bryd, megis defnyddio cyfrifiadur a llungopïo.
- Bydd mesurau diogelwch yn eu lle, i ddiogelu defnyddwyr a staff.