Canolfan ailgylchu Rhwngddwyryd, Garndolbenmaen i ailagor o dan reolau newydd
Dyddiad: 18/06/2020
Mae canolfan ailgylchu Cyngor Gwynedd yn Rhwngddwyryd, Garndolbenmaen yn ail-agor i drigolion Gwynedd dan drefniadau newydd o ddydd Mawrth, 23 Mehefin.
Mae hyn yn golygu y bydd pob un o wyth canolfan ailgylchu’r Cyngor ar agor dan drefniadau lle mae gofyn i drigolion drefnu apwyntiad o flaen llaw.
Er mwyn defnyddio’r gwasanaeth, mae angen i drigolion drefnu amser penodol ar-lein o flaen llaw drwy ymweld â www.gwynedd.llyw.cymru/canolfannauailgylchu neu drwy ddefnyddio ap “ApGwynedd”. I drigolion sydd methu mynd arlein, dylent archebu drwy ffonio canolfan gyswllt y Cyngor ar 01766 771000.
Bydd trigolion Gwynedd yn gallu trefnu apwyntiad ar gyfer canolfan Rhwngddwyryd, Garndolbenmaen o 8.30am fore Gwener, 19 Mehefin ymlaen.
Meddai’r Cynghorydd Catrin Wager, Aelod Cabinet Priffyrdd a Bwrdeistrefol Cyngor Gwynedd:
“Fel Cyngor, rydym yn falch iawn y bydd pob un o’n canolfannau ailgylchu ar agor o dan y drefn newydd. Bellach, mae gofyn i bobl sydd am ymweld gyda chanolfannau ailgylchu Gwynedd drefnu apwyntiad o flaen llaw.
“Mae’r drefn yma wedi gweithio yn llwyddiannus gydag ymhell dros 12,000 o apwyntiadau wedi eu gwneud hyd yma ar draws yr holl ganolfannau. Hoffwn ddiolch i drigolion am barhau i ddilyn y rheolau pellhau cymdeithasol ar y safleoedd ac i staff gweithgar y canolfannau am eu gwaith yn ystod y cyfnod heriol yma.
“Rydan ni’n gofyn i bobl Gwynedd helpu sicrhau bod y trefniadau newydd yn gweithio mor rhwydd â phosib trwy ddidoli cymaint ag y gallan nhw o’u heitemau cyn mynd i’r ganolfan, a sicrhau eu bod yn cadw at y rheolau ymbellhau cymdeithasol ar y safleoedd er mwyn diogelu eu hiechyd eu hunain ac iechyd ein staff.
“I’r trigolion hynny sydd angen cael gwared ar eitemau mawr, mae’r gwasanaeth casglu gwastraff swmpus bellach wedi ail-gychwyn. Mae modd trefnu i dalu am gasgliad swmpus ar wefan y Cyngor ar www.gwynedd.llyw.cymru/gwastraffswmpus neu ffonio Galw Gwynedd.”
Mae’r gwasanaeth yn y canolfannau ailgylchu wedi ei gyfyngu i geir yn unig ar hyn o bryd. Y cam nesaf fydd cynnig y drefn newydd o archebu slot amser i berchnogion trelars a faniau panel domestig, ac mae’r Cyngor yn gobeithio gallu cyflwyno’r drefn yma yn fuan.
Os oes trigolion angen canslo slot i fynychu’r ganolfan ailgylchu, mae’r Cyngor yn gofyn iddynt roi gwybod mor fuan â phosib er mwyn gallu cynnig y slot i rhywun arall. Er mwyn canslo, dylid e-bostio: fynghyfrif@gwynedd.llyw.cymru neu ffonio 01766 771000.
Ni ddylai trigolion sy’n dangos symptomau COVID-19, na’r rheini sy’n byw yn yr un tŷ â rhywun sy’n dangos symptomau o’r feirws neu â rhywun sy’n cael eu gwarchod, ymweld â’r canolfannau ailgylchu.
Mae’r canolfannau ar gyfer trigolion Gwynedd yn unig, ac fel rhan o’r trefniadau ailagor, mae angen i drigolion sy’n dymuno defnyddio’r canolfannau ailgylchu ddilyn y camau canlynol:
- archebu amser ymlaen llaw ar wefan y Cyngorwww.gwynedd.llyw.cymru/canofannauailgylchuneu trwy ffonio canolfan gyswllt y Cyngor, Galw Gwynedd – gwrthodir mynediad i unrhyw un a fydd yn ceisio ymweld heb apwyntiad;
- rhoi rhif cofrestru eu cerbyd wrth archebu apwyntiad – mae’r gwasanaeth wedi’i gyfyngu i geir yn unig ar hyn o bryd;
- sicrhau eu bod yn ymweld â’r ganolfan ailgylchu yn ystod yr amser a drefnwyd iddynt (dim mwy na 10 munud cyn cychwyn yr amser a dim hwyrach na 10 munud cyn diwedd eu hamser);
- sicrhau mai dim ond un person sy’n camu allan o’r cerbyd i ddadlwytho’r gwastraff
- dilyn y mesurau ymbellhau cymdeithasol llym a fydd ar waith ym mhob canolfan ailgylchu a chael gwared ar eu heitemau mor gyflym â phosib;
- sicrhau eu bod yn dod â gwastraff cartref yn unig – ni fydd gwastraff masnachol na gwastraff busnes yn cael ei ganiatáu;
- peidio â dod ag unrhyw eitemau na allan nhw eu cario eu hunain. Oherwydd y rheolau ymbellhau cymdeithasol, ni fydd staff yn gallu helpu pobl i ddadlwytho eu car na chael gwared ar wastraff;
- didoli cymaint â phosibl o’u gwastraff cyn mynd i’r ganolfan fel y gallan nhw gael gwared ar eitemau mor gyflym â phosibl;
- rhaid i wastraff cartref (nad yw’n bosibl ei ailgylchu) gael ei roi mewn bag cyn ei roi mewn sgipiau;
- rhaid i wastraff gardd gael ei wagio o fagiau wrth ei daflu i’r sgip.
Gall trigolion sydd am archebu casgliad gwastraff swmpus wneud hynny trwy fynd i www.gwynedd.llyw.cymru/gwastraffswmpus neu ddefnyddio ‘ApGwynedd’. Gall unrhyw un sydd ddim â mynediad i’r we drefnu i dalu am gasgliad drwy ffonio 01766 771000.