Ymgyrch Prynu'n Lleol Cyngor Gwynedd yn galw am gymorth y gymuned
Dyddiad: 23/09/2022
Ydych chi eisiau chwarae rôl mewn helpu i gefnogi a hyrwyddo busnesau lleol? Ydych chi’n gwybod am fusnes lleol sy’n cyfrannu at y gymuned? Hoffwch chi eu helpu drwy fod yn rhan o ymgyrch Prynu’n Lleol Cyngor Gwynedd?
Y cwbl sydd angen i chi wneud ydi enwebu busnes lleol – gall fod yn siop, caffi, atyniad neu unrhyw fusnes arall – a byddant yn derbyn cefnogaeth rhad ac am ddim drwy Adran Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd.
Mae cyfle i fusnesau gael lle ar lwyfannau digidol yr ymgyrch a chael eu hyrwyddo ar gyfrifon Facebook, Twitter ac Instagram Prynu’n Lleol. Byddant hefyd yn derbyn arwydd “Ar Agor / Ar Gau” yr ymgyrch a sticeri I'w harddangos yn eu busnes.
Dyma yn union wnaeth y Cynghorydd Jina Gwyrfai, yr aelod lleol dros Llanaelhaearn, sydd wedi cael arwyddion a sticeri ar gyfer busnesau sy’n lleol iddi hi yn Llanaelhaearn, Trefor a Llithfaen.
Meddai’r Cynghorydd Gwyrfai: “Mae arwyddion a sticeri ‘Prynu’n Lleol’ yn fodd syml ond effeithiol o hyrwyddo busnesau a gwasanaethau lleol. Maent yn atgoffa pawb o’r angen i ddefnyddio ‘siop y gornel’ neu’r garej leol er mwyn cefnogi economi cymunedol y fro.
“Mae ystod o gynnyrch a gwasanaethau lleol o safon uchel ar gael i ni yma yng Ngwynedd, sy’n destun balchder i ni’r trigolion. Fy neges i yw - ymunwch yn yr ymgyrch i siopa’n lleol.”
I enwebu busnes lleol, neu os ydych yn rhedeg busnes a hoffwch dderbyn nwyddau a chael hwb hyrwyddo, cysylltwch yn uniongyrchol efo’r tîm Prynu’n Lleol:
Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Dirprwy Arweinydd Cyngor a Gwynedd a’r Aelod Cabinet gyda chyfrifoldeb dros yr economi:
“Mae adfywio canol trefi yn hynod bwysig inni yn y Cyngor ac mae’r pandemig COVID-19 wedi tanlinellu’r angen i gefnogi canol trefi fel gall busnesau lleol ail-adeiladu yn dilyn y cyfnod heriol.
“Rydw i'n falch felly fod yr ymgyrch yma – ymysg nifer o gynlluniau eraill sydd ar y gweill – am fod yn helpu i hyrwyddo’r busnesau hynny sy’n asgwrn cefn i'n trefi a’n pentrefi.
“Drwy hyrwyddo busnesau yn sy’n gwasanaethu ein cymunedau, sy’n cynnig cynnyrch lleol ac yn rhoi profiad siopau unigryw byddwn yn helpu i sicrhau fod elw yn ailgylchu o fewn yr economi leol. Bydd hyn yn ei dro yn cefnogi busnesau a chymunedau lleol o fewn y sir ynghyd a datblygu economi hyfyw a chynaliadwy.
“Mi fyddwn yn erfyn ar fusnesau i fanteisio ar y cynllun Prynu’n Lleol ac i bawb gefnogi ein busnesau lleol.”