Ymgynghoriad posib ar gynyddu Treth Cyngor ar ail gartrefi yng Ngwynedd hyd at 300%

Dyddiad: 23/09/2022
Yn ei gyfarfod ar 27 Medi, bydd Cabinet Cyngor Gwynedd yn ystyried argymhelliad i symud ymlaen i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar gynnig posib i gynyddu’r Premiwm ar Dreth Cyngor Ail Gartrefi ac Eiddo Gwag Hirdymor hyd at 300% ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24.

Os bydd y Cabinet yn pleidleisio i fwrw mlaen, bydd y Cyngor yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus am 28 niwrnod yn ystod Medi a Hydref 2022, gan wahodd sylwadau gan y cyhoedd.

Yn dilyn ymgynghori, byddai adroddiad o’r canlyniadau yn cael ei gyflwyno drachefn gerbron  y Cabinet yn ei gyfarfod ar 22 Tachwedd. Bydd hyn yn caniatáu digon o amser i gyflwyno argymhelliad ar lefel y Premiwm Treth Cyngor ar gyfer 2023/24 i’r Cyngor Llawn ar Rhagfyr 2022.

Dywedodd y Cynghorydd Ioan Thomas, Aelod Cabinet Cyllid Cyngor Gwynedd: “Oherwydd newid yn y ddeddf, gall Cyngor Gwynedd godi premiwm o hyd at 300% ar ail-gartrefi o 1 Ebrill 2023 ymlaen, sy’n sylweddol fwy na’r 100% sy’n cael ei godi ar ail gartrefi ar hyn o bryd.

“Mae unrhyw arian sy’n dod i goffrau’r Cyngor drwy’r premiwm yn cael ei fuddsoddi mewn cynlluniau  sicrhau bod gan bobl Gwynedd fynediad at gartref addas o safon, sy’n fforddiadwy ac sy’n gwella eu hansawdd bywyd. Y premiwm yw un o’r arfau sydd gan y Cyngor er mwyn mynd i’r afael â phrinder tai fforddiadwy o fewn  y sir a’r nifer uchel o ail gartrefi.”

Pwysleisiodd y Cynghorydd Thomas na fydd unrhyw benderfyniad am lefel y dreth Cyngor yn cael ei wneud gan y Cabinet ar 27 Medi.

“Un cam yn y broses o osod y dreth Cyngor ydi hyn,” eglurodd. “Mae’n rhaid i’r Cyngor llawn wneud penderfyniad blynyddol ar raddfa’r premiwm. Gan fod yr hawl gennym erbyn hyn i gynyddu’r premiwm ar ail gartrefi ymhellach, mae’n briodol ac yn synhwyrol i ni fel Cabinet i sicrhau fod cyfle i graffu’r mater ac yna bydd yr holl wybodaeth gan y cynghorwyr i neud y penderfyniad yn y Cyngor Llawn ym mis Rhagfyr. 

“Os bydd gweddill y Cabinet yn cytuno, a’r ymgynghoriad yn mynd yn ei flaen, rwy’n annog pawb sydd a diddordeb yn maes i fanteisio ar y cyfle ac i gyflwyno eu safbwyntiau.”

Bydd ymgynghoriad o’r fath, os yn cael y olau gwyrdd gan y Cabinet, yn caniatáu i’r Cyngor gasglu tystiolaeth er mwyn sicrhau fod polisi’r Cyngor ynglŷn â’r Premiwm Treth Cyngor wedi ei asesu’n briodol yn erbyn egwyddorion cydraddoldeb a datblygu cynaliadwy.

Cynhelir cyfarfod y Cabinet ddydd Mawrth, 27 Medi. Mae agenda’r cyfarfod ar gael ar wefan y Cyngor: Rhaglen ar gyfer Y Cabinet ar Dydd Mawrth, 27ain Medi, 2022, 1.00 y.h. (llyw.cymru). Bydd modd i’r cyhoedd wylio’r cyfarfod yn fyw ar wefan y Cyngor: Cartref - Gweddarllediadau Cyngor Gwynedd (public-i.tv)

Nodiadau

Cyflwynwyd y grym i awdurdodau lleol gynyddu uchafswm y Premiwm a godir i 300% o 1 Ebrill 2023 ymlaen trwy Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Anheddau Gwag Hirdymor ac Anheddau a Feddiennir yn Gyfnodol) (Cymru) 2022 a ddaeth i rym ym Mawrth 2022. Manylion ym: https://www.legislation.gov.uk/wsi/2022/370/contents/made/welsh  

Mae’r newid hwn yn rhan o becyn ehangach o newidiadau sydd wedi cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru fel rhan o “ymrwymiad ehangach i fynd i'r afael â phroblemau ail gartrefi a thai anfforddiadwy sy'n wynebu llawer o gymunedau yng Nghymru, fel y nodir yn y Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru”.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, “Nod yr ymrwymiad yw cymryd camau radical ar unwaith, gan ddefnyddio'r systemau cynllunio, eiddo a threthu”. Manylion llawn yma: Rheolau treth newydd ar gyfer ail gartrefi | LLYW.CYMRU