Tlodi tanwydd o dan y chwydd wydr yng Nghynhadledd Ynni Cyngor Gwynedd

Dyddiad: 08/09/2022
Cynhadledd ynni 1

Gyda prisiau cynyddol ynni a’r argyfwng costau byw ar flaen meddwl llawer o bobl, mae’n amserol fod Cyngor Gwynedd yn trefnu Cynhadledd Ynni er mwyn edrych ar sut i ymateb i dlodi tanwydd yn y sir.

Bwriad y cyfarfod, a gynhelir ar 13 Medi, yw tynnu ynghyd nifer o bartneriaid ac asiantaethau ar draws sawl maes – gan gynnwys y sector cyhoeddus a’r trydydd sector – er mwyn mapio gallu’r awdurdodau perthnasol i baratoi at heriau’r gaeaf.

Daw’r gynhadledd hon yn dilyn llwyddiant digwyddiad tebyg ym mis Gorffennaf pryd cyflwynwyd gwybodaeth fanwl am sefyllfa stoc dai’r sir, ynghyd â’r prif heriau a rhwystrau sydd i’w gweld ar hyn o bryd. Rhannwyd sgiliau ac arbenigeddau ymysg y rhai oedd yn bresennol a chafwyd adborth cadarnhaol iawn gan bawb a fynychodd. 

Cynhelir cyfarfodydd pellach yn y gyfres dros y misoedd nesaf er mwyn ehangu ac adeiladu ar y gwaith.

Dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet dros Dai ac Eiddo Cyngor Gwynedd: “Mae’n bleser cael bod yn rhan o’r digwyddiad pwysig yma ac yn hyd yn oed mwy o bleser gweld pawb yn dod at ei gilydd er mwyn trio helpu pobl Gwynedd. Gyda biliau yn codi, ac yn debygol o godi eto dros y gaeaf, mae tynnu’r arbenigwyr at ei gilydd a rhannu gwybodaeth a syniadau fel hyn yn allweddol er mwyn gwneud beth allwn ni i leddfu pryderon a chynnig datrysiadau.”

Dywedodd Sandra Kargin, Warden Ynni Grŵp Cynefin: “Roedd y gynhadledd yn gyffrous. Roedd hefyd yn rhyddhad nad ydym ni fel Wardeiniaid yn ‘mynd ar ein pennau ein hunain’ yn y gaeaf hwn o dlodi tanwydd difrifol. Bydd cael cefnogaeth gan bobl eraill sy'n gweithio yn y maes hwn yn ein helpu'n fawr i gynorthwyo'r rhai mewn angen.”

Dywedodd Joanna Seymour, Pennaeth Partneriaethau a Datblygu Cymru Gynnes: “Mae'r digwyddiad yma sydd wedi ei drefnu gan Gyngor Gwynedd wedi dod ar yr adeg iawn a dwi'n diolch iddyn nhw am eu gwahoddiad. Mae ymuno â sefydliadau eraill sy'n rhoi cymorth i drigolion sy'n edrych ar filiau ynni ac uchafu arian yn bwysig iawn yn yr amser presennol hwn gyda’r cost gynyddol o fyw. Mae cymaint o drigolion a fydd yn cael eu heffeithio gan y biliau ynni cynyddol a bydd angen cefnogaeth arnynt, mae'n hanfodol felly ein bod ni gyd yn gwybod beth sydd ar gael.”

 

Ychwanegodd y Cynghorydd ab Iago: “Hoffwn ychwanegu os oes unrhyw un yn pryderu ac eisiau cyngor ynglŷn â’u biliau ynni, gwnewch ddefnydd o’r bobl a mudiadau gwych sy’n weithgar yn y maes yma yn eich cymuned.”

Am fwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael tuag at gynhesu eich cartref a’r taliadau y gallech fod yn gymwys amdanynt: