Ei Mawrhydi Y Frenhines, Elizabeth II 1926 – 2022

Dyddiad: 09/09/2022

Mae Cadeirydd Cyngor Gwynedd, Y Cynghorydd Elwyn Jones, wedi mynegi cydymdeimlad y Cyngor â’r Brenin Siarl III a’r Teulu Brenhinol, yn dilyn cyhoeddi marwolaeth Ei Mawrhydi Y Frenhines Elizabeth II.

Dywedodd y Cynghorydd Jones: “Anfonwn ein cydymdeimlad i’r Teulu Brenhinol yn eu galar, a thalwn deyrnged i’r ddiweddar Fawrhydi yn dilyn oes o wasanaeth cyhoeddus. Maent yn ein meddyliau ar yr adeg hon.”

Fel arwydd o barch, bydd y faner ar Bencadlys Cyngor Gwynedd yng Nghaernarfon, yn ogystal ag adeiladau eraill y Cyngor, wedi eu gostwng i hanner mast.

Gellir arwyddo y Llyfr Cydymdeimlad ar-lein drwy fynd i www.royal.uk neu drwy arwyddo Llyfrau Cydymdeimlad sydd ar gael yn Siopau Gwynedd yn Swyddfeydd y Cyngor yng Nghaernarfon, Pwllheli neu Dolgellau, ar agor 9am – 5pm, dydd Llun - Gwener.