Datblygiad cyntaf tai Cyngor Gwynedd yn derbyn caniatâd cynllunio
Dyddiad: 12/09/2022
Mae cynllun cyntaf Cyngor Gwynedd i godi tai ar safle cyn Ysgol Coed Mawr ym Mangor wedi derbyn caniatâd cynllunio – carreg filltir arwyddocaol yn y bwriad i godi tai fforddiadwy canolraddol trwy Gynllun Tŷ Gwynedd.
Yng nghyfarfod Pwyllgor Cynllunio Gwynedd ar y 5 Medi, cymeradwywyd cynlluniau’r Cyngor i godi 10 o dai canolraddol yn dilyn gweledigaeth ac egwyddorion Tŷ Gwynedd, sef y bydd y tai yn:
- Fforddiadwy
- Hyblyg – sef y gallir addasu’r tŷ i gwrdd ag anghenion trigolion yn y dyfodol
- Cynaliadwy – sef bod y dyluniadau a gwneuthuriad a deunyddiau adeiladu’r tai yn gynaliadwy ac yn hybu’r gadwyn gyflenwi leol
- Ynni-effeithiol – sef anelu i ddefnyddio technegau a’r dechnoleg ddiweddaraf i leihau ôl troed carbon a hwyluso defnydd effeithiol o ynni i breswylwyr
- Gwella llesiant y trigolion sy’n byw ynddynt
Trwy ei Gynllun Gweithredu Tai, mae’r Cyngor wedi adnabod bwlch yn y ddarpariaeth o dai canolraddol ar draws y Sir ac o ganlyniad wedi penderfynu datblygu tai i gyfarch yr angen a chynyddu’r cyfleoedd i drigolion nad ydynt yn gymwys am dŷ cymdeithasol ond sydd chwaith methu fforddio i brynu neu rentu oddi ar y farchnad agored.
Safle Coed Mawr yw’r safle cyntaf i gyrraedd y cam allweddol yma a bydd y 10 tŷ a ddarperir i gyd yn dai fforddiadwy canolraddol ar gyfer pobl leol. Mae rhestr aros Tai Teg yn dangos fod gwir angen am y datblygiad ac, yn dilyn codi ymwybyddiaeth o’r cynllun ac ymgynghori lleol ar y cais cynllunio, mae’r diddordeb yn y safle a’r nifer sydd wedi cofrestru gyda Tai Teg wedi cynyddu’n sylweddol. Ers Mehefin 2021, mae’r nifer o geisiadau am dai fforddiadwy i’w prynu ym Mangor wedi cynyddu 405% (o 60 i 303 ymholiad).
Y bwriad gyda’r safle yma yw i werthu neu osod y 6 tŷ tair llofft a’r 4 tŷ dwy lofft fel tai canolraddol. Golyga hynny y bydd y tai’n cael eu gwerthu ar sail model rhan ecwiti y Cyngor, h.y. bydd y Cyngor yn cadw canran o ecwiti ym mhob eiddo a werthir er mwyn sicrhau pris sy’n fforddiadwy i’r farchnad leol. Bydd hyn hefyd yn sicrhau bod y tai yn parhau yn nwylo pobl leol i’r dyfodol. Gyda’r tai rhent, bydd disgownt ar brisiau’r farchnad agored yn cael ei gynnig, gan helpu pobl i gynilo blaendal ar gyfer prynu yn y dyfodol.
Meddai’r Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd:
“Rydw i’n hynod falch ein bod bellach wedi derbyn caniatâd cynllunio i ddatblygu’r safle yma ym Mangor.
“Mae’r ffaith bod y nifer o geisiadau am dai fforddiadwy wedi cynyddu dros 400% ers Mehefin 2021 yn dangos yr angen sylweddol sydd am dai o’r math yma ym Mangor, a dw i’n falch ein bod ni fel Cyngor yn cyfrannu at ateb y galw hwnnw.”
“Rydw i’n edrych ymlaen i weld y safle’n datblygu, a'r cyfleoedd a’r effaith positif y mae hynny am ei gael ar rai o drigolion y gymuned yma ym Mangor. Bydd Adran Tai ac Eiddo’r Cyngor hefyd yn parhau â chynlluniau ar gyfer datblygu tai ar safleoedd eraill ar draws Gwynedd, gan gynnwys y tir cyntaf i ni ei brynu ym Morfa Nefyn yn ddiweddar.”
“Wrth gwrs, un o nifer o brosiectau yn ein Cynllun Gweithredu Tai ydi’r cynllun yma, ac mae gennym gynlluniau eraill o bob math ar draws Gwynedd er mwyn cyrraedd ein nod o sicrhau bod gan bobl Gwynedd fynediad at gartref o safon, sy’n fforddiadwy ac sy’n gwella ansawdd eu bywyd."