Croesawu Prentisiaid newydd i Gyngor Gwynedd
Dyddiad: 23/09/2022
Mae Cynllun Prentisiaeth Cyngor Gwynedd wedi cyrraedd carreg filltir o bwys wrth i brentisiaid newydd gychwyn eu llwybr gyrfa gyda’r Cyngor ddiwedd Awst.
Bydd y prentisiaid newydd yn ymuno â’r 30 prentis sydd eisoes yn gweithio o fewn y Cyngor ac sy’n cael cyfle i ddysgu wrth weithio, cael eu mentora gan staff profiadol a chefnogol, cael cyfleoedd rwydweithio a gweithio tuag at dderbyn cymhwyster cydnabyddedig ar ddiwedd y cynllun.
Eleni, graddiodd y person cyntaf drwy’r Cynllun Prentisiaeth Cyngor Gwynedd ac mae bellach wedi sicrhau swydd llawn amser parhaol efo’r Cyngor.
Lleolir prentis newydd mewn sawl adran sy’n gynnwys Adran TG a Chyllid, Plant a Theuluoedd, Priffyrdd a Bwrdeistrefol a Gwasanaeth Gwybodaeth Traffig Llywodraeth Cymru ar gyfer traffyrdd a chefnffyrdd Cymru.
Meddai’r Cynghorydd Menna Jones, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd sy’n arwain ar faterion Cefnogaeth Gorfforaethol:
“Mae Cynllun Prentisiaethau Cyngor Gwynedd yn gyfle gwych ac yn rhywbeth yr wyf yn falch iawn ohono”
“Fel Cyngor, rydan ni eisiau sicrhau swyddi da i bobl y sir a diolch i’r cynllun yma mae dwsinau o bobl Gwynedd wedi cael y cyfle i gychwyn gyrfa, derbyn cefnogaeth a chymorth profiadol a chael cymwysterau o werth ac ennill cyflog ar yr un pryd.
“Mae amrywiaeth yn y prentisiaethau sydd wedi eu cynnig, a rydym yn arbennig o falch ein bod ni’n gweithio i gywiro’r anghydbwysedd rhwng y rhywiau mewn rhai sectorau.”
Dywedodd Enlli Jones, Prentis Cyllid:
”Cyn i mi weithio i Gyngor Gwynedd, roeddwn yn gweithio mewn bwyty lleol ac ystyried mynd i Brifysgol i astudio i fod yn gyfrifydd. Awgrymodd aelod o’r teulu Gynllun Prentisiaeth Cyngor Gwynedd. Mae prentisiaeth yn opsiwn perffaith i mi, cael dysgu yn y byd gwaith wrth gael cyflog. Mae’n rhoi cyfle i bobl ifanc cael rhoi theori ar waith a dysgu efo cyd-weithwyr sydd yn rhannu eu profiadau.”
I wybod mwy am y Cynllun Prentisiaeth Cyngor Gwynedd neu i gofrestru eich diddordeb ewch i wefan y Cyngor Ai prentisiaeth yw'r cam nesaf i chi? (llyw.cymru) neu cysylltwch gyda’r tîm prentisiaethau@gwynedd.llyw.cymru .