LANSIO YMGYRCH I GYNYDDU NIFEROEDD AC AMRYWIAETH GOFALWYR MAETHU YNG NGWYNEDD YN SYLWEDDOL

Dyddiad: 24/09/2021
DilwynMorgan1

Nod yr ymgyrch gan ‘Maethu Cymru’, y rhwydwaith newydd o 22 o wasanaethau maethu Awdurdodau Lleol ledled y wlad, yw cael effaith genedlaethol sylweddol ar ddyfodol pobl ifanc.  

Gyda thros draean (39%) o oedolion Cymru yn dweud eu bod wedi ystyried dod yn ofalwyr maeth, mae ymgyrch newydd wedi’i lansio ledled Cymru, gyda’r nod o gynyddu niferoedd ac amrywiaeth gofalwyr maeth Awdurdodau Lleol yn sylweddol.

Ledled y wlad, mae pob plentyn sydd angen gofalwr yng ngofal eu Hawdurdod Lleol. Nod yr ymgyrch hysbysebu ddwyieithog newydd, sy’n cynrychioli Cyngor Gwynedd a’r 21 o dimoedd maethu Awdurdodau Lleol dielw eraill sy’n ffurfio ‘Maethu Cymru’, yw cynyddu nifer y rhieni maeth sydd eu hangen i helpu plant yn eu hardal leol, pan fydd hynny’n iawn iddyn nhw.  

Gall helpu plant i aros yn eu cymuned leol fod o fudd mawr a golygu’r byd iddyn nhw. Nid yn unig y mae’n eu cadw mewn cysylltiad â’u ffrindiau, eu hysgol a’u hymdeimlad o hunaniaeth, ond mae hefyd yn meithrin hyder ac yn lleihau straen.  

Meddai’r Cynghorydd Dilwyn Morgan, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Blant a Phobl Ifanc: “Mae dod yn ofalwr maeth yn benderfyniad i helpu plant lleol sydd angen rhywun i wrando arnyn nhw. I gredu ynddyn nhw. Plant sydd angen rhywun ar eu ochr, rhywun i’w caru nhw. Mae’n benderfyniad i weithio gyda phobl sy’n rhannu’r nodau hynny, pobl fel tîm maethu eich Awdurdod Lleol yma yng Ngwynedd.”

Mae dal angen recriwtio tua 550 o ofalwyr maeth a theuluoedd newydd ledled Cymru bob blwyddyn. Mae hyn er mwyn cadw i fyny gyda nifer y plant sydd angen gofal a chymorth, wrth gymryd lle gofalwyr sy’n ymddeol neu’n darparu cartref parhaol i blant.    

Wrth lansio Maethu Cymru ym mis Gorffennaf, dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan AS: “Rwy’n gwybod o wrando ar ofalwyr maeth pa mor werthfawr y gall maethu fod. Bydd y fenter newydd hon o fudd i blant sy’n derbyn gofal ac yn caniatáu i dimau maethu a recriwtio Awdurdodau Lleol ledled Cymru feddwl yn fwy, gan greu effaith genedlaethol heb golli eu mantais o arbenigedd lleol penodol.  

Mae’r llywodraeth hon wedi ymrwymo i leihau nifer y plant sydd mewn gofal, rhoi canlyniadau gwell i blant sydd wedi profi gofal, a dileu’r elfen elw o blant mewn gofal. Mae Maethu Cymru yn rhan o’r gwaith o gyflawni’r addewid hwn a bydd yn galluogi plant i aros yn eu cymunedau a bodloni anghenion esblygol plant maeth a’r bobl sy’n eu maethu.”  

Er nad oes dau blentyn yr un fath, nid yw’r gofal maeth sydd ei angen arnyn nhw'r un fath, ychwaith. Nid oes teulu maeth ‘nodweddiadol’. P’un a yw rhywun yn berchen ar ei gartref ei hun neu’n rhentu, p’un a yw’n briod neu’n sengl. Beth bynnag fo’u rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, ethnigrwydd neu ffydd, mae yna bobl ifanc sydd angen rhywun ar eu hochr nhw.  

Ychwanegodd y Cynghorydd Dilwyn Morgan: “Rydyn ni’n gobeithio croesawu llawer mwy o bobl i faethu gyda Maethu Cymru dros y misoedd nesaf.”

“Mae unrhyw un sy’n maethu gyda thîm Maethu Cymru eu Hawdurdod Lleol yn gwneud hynny o wybod, lle bynnag y bydd eu dyfodol maethu yn eu cymryd, y byddwn ni wrth eu hochr bob cam o’r ffordd gyda’r holl arbenigedd, cyngor a hyfforddiant pwrpasol sydd eu hangen i gefnogi eu taith faethu.  

“Mae gan bob plentyn yr hawl i ffynnu. Y cyfan sydd ei angen yw mwy o bobl fel chi i agor eu drysau a’u croesawu nhw i mewn.”  

Bydd yr ymgyrch newydd gan Maethu Cymru yn rhychwantu teledu, radio, Spotify a llwyfannau digidol.

I gael gwybod mwy am faethu Awdurdod Lleol yng Ngwynedd ewch i https://maethucymru.gwynedd.llyw.cymru/