Cam mawr ymlaen i strategaeth dysgu ddigidol arloesol Gwynedd
Dyddiad: 10/09/2020
Mae camau cyntaf strategaeth dysgu digidol uchelgeisiol wedi cael ei gymeradwyo gan Gabinet Cyngor Gwynedd, sydd yn anelu i ddarparu gliniaduron neu ddyfeisiadau electronig i holl ddisgyblion ysgol y sir.
Dros y blynyddoedd nesaf bydd y cynllun arloesol yma, sydd yn cael ei gyllido’n rhannol yn y blynyddoedd cynnar gan Lywodraeth Cymru, yn darparu gliniaduron i holl ddisgyblion ysgol Gwynedd o flwyddyn 3 i fyny yn ogystal â dyfeisiadau llechen i ddisgyblion y Cyfnod Sylfaen.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Addysg, y Cynghorydd Cemlyn Rees Williams:
“Ein gweledigaeth fel Cyngor ydi sicrhau bod pob un o ddisgyblion ysgol Gwynedd yn medru cyflawni ei lawn botensial. Bydd y cynllun arloesol yma sydd wedi cael ei ddatblygu dros y blynyddoedd diwethaf yn ganolog i gyflawni’r uchelgais yma ac yn cefnogi holl agweddau’r cwricwlwm newydd.
“O archebu ein neges wythnosol i ymgynghoriadau meddygol rhithiol, drwy gyfnod y Coronafeirws mae pawb wedi gweld potensial technoleg i yrru ein economi a chefnogi unigolion a chymunedau.
“Does dim amheuaeth fod y ffyrdd newydd yma o weithio a byw am ddwysáu a dod yn ‘normal newydd’ dros y blynyddoedd i ddod. O ganlyniad, mae’n bwysicach nag erioed fod pobl ifanc Gwynedd a staff ysgolion yn cael y cyfarpar TG sydd ei angen i ffynnu o fewn yr amgylchedd digidol newydd yma.
“Bydd darparu'r un adnoddau digidol i holl ddisgyblion yn sicrhau na fydd yr un plentyn yng Ngwynedd yn cael ei adael ar yr ochr anghywir i’r ffin ddigidol a bod gan disgyblion yr un adnoddau a chyfleoedd i wireddu eu potensial.
“Mae cyflogwyr yn dweud wrthym fod busnesau ac economi Gwynedd angen gweithwyr gyda sgiliau TG ardderchog. Bydd y cynllun yma yn sicrhau fod gan bobl ifanc y sgiliau digidol angenrheidiol i sicrhau swydd dda o fewn eu cymunedau.”
Disgyblion Blwyddyn 10 ac 11, ynghyd a’u hathrawon fydd y cyntaf i dderbyn y cyfarpar, gyda’r broses yn cychwyn yn ystod 2020/21. Yna bydd y rhaglen yn cael ei ymestyn i weddill disgyblion Gwynedd.