Terfynau Cyflymder 20mya – Cyfle i roi eich barn

Dyddiad: 31/03/2023
20mya
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd terfyn cyflymder o 20mya yn cael ei gyflwyno ar gyfer ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru o 17 Medi 2023. 

 

Mae ffyrdd cyfyngedig fel arfer mewn ardaloedd trefol ac yn cynnwys ffyrdd lle mae goleuadau stryd wedi’u gosod dim mwy na 200 llath oddi wrth ei gilydd.

 

Nod Llywodraeth Cymru wrth gyflwyno'r newid fydd:

 

  • lleihau'r nifer o ddamweiniau ac anafiadau difrifol o ganlyniad i ddamweiniau;
  • annog mwy o bobl i gerdded a beicio yn ein cymunedau;
  • helpu i wella ein hiechyd a llesiant;
  • gwneud ein strydoedd yn fwy diogel;
  • diogelu’r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

 

Bydd y terfynau cyflymder 30mya presennol yn gostwng i 20mya yn y mwyafrif o safleoedd yng Ngwynedd. Ond gyda rhai ffyrdd lle mae yna gyfiawnhad, bydd y cyfyngiadau yn aros yn 30mya ac mae gwaith manwl wedi ei gynnal i ystyried y lleoliadau yma gan beirianwyr y Cyngor. 

 

Meddai’r Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd:

 

“Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan y bwriad fod terfyn cyflymder o 20mya yn cael ei gyflwyno ar strydoedd prysur a phreswyl, a ffyrdd lle mae goleuadau stryd wedi'u gosod dim mwy na 200 llath oddi wrth ei gilydd.

 

“Wrth gwrs, mae’r egwyddor o leihau’r nifer o ddamweiniau ar y ffyrdd a cheisio annog mwy o gerdded a beicio i’w groesawu.

 

“Ond er mwyn sicrhau fod y newidiadau yn cael eu cyflwyno yn y ffordd mwyaf synhwyrol yma yn lleol, rydym yn awyddus i dderbyn eich sylwadau chi am yr hyn sy’n cael ei gynnig ar y rhwydwaith ffyrdd sirol yng Ngwynedd.”

 

Mae map yn amlygu’r hyn sy’n cael ei gynnig a’r manylion am sut i gyflwyno sylwadau ar y ffyrdd sy’n gyfrifoldeb Cyngor Gwynedd gael ar www.gwynedd.llyw.cymru/20mya - dylai unrhyw un sydd am gyflwyno sylw wneud hynny cyn 28 Ebrill 2023. Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru ydi cefnffyrdd yng Ngwynedd felly nid yw’r map yn cynnwys manylion am y ffyrdd yma.