Cyngor Gwynedd yn cynnal Diwrnod Darganfod Natur y Pasg

Dyddiad: 24/03/2023
POSTER Diwrnod Darganfod Natur y Pasg

Oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am fyd natur a chynefinoedd gwerthfawr Gwynedd tra’n cymryd rhan mewn gweithgaredd hwyliog y Pasg?

Yna dewch draw i Ddiwrnod Darganfod Natur y Pasg yn Morfa Madryn ger Abergwyngregyn ddydd Sul, 2 Ebrill ble bydd croeso cynnes i’r teulu cyfan gan Wasanaeth Bioamrywiaeth Cyngor Gwynedd a phartneriaid y prosiect.

Mae’n bosib cyrraedd y safle drwy grwydro Llwybr yr Arfordir o Llanfairfechan – mae’r llwybr yn cynnig mynediad i ddefnyddwyr cadair olwyn neu sgwter i ddod i fwynhau’r hwyl a dysgu am natur.

Rhai o brif atyniadau’r diwrnod fydd:

•            Llwybr ‘Pob wy yn cyfri’ efo gwobrau wyau siocled.

•            Cyfarfod y gwartheg - dysgwch am y gwaith pwysig maent yn gwneud ar y warchodfa.

•            Helfa Madarch a Saffari Gwyfynod gydag arbenigwr lleol.

•            Gweithdy Ditectif Pŵ.

•            Adeiladu blychau adar.

•            Clwb Crefftau Natur.

•            Sesiynau Darganfod Natur.

•            A llawer mwy!

Dros y misoedd diweddar, mae Cyngor Gwynedd wedi bod yn gweithio gyda gwirfoddolwyr a mudiadau lleol i wneud gwaith cynnal a chadw hanfodol a gwelliannau pellach ar warchodfa natur Morfa Madryn. Bydd y diwrnod Darganfod Natur y Pasg yn gyfle i weld y gwaith ac i ddysgu mwy am y cynefin hynod werthfawr ar gyfer adar y môr sy’n bwydo ar gyfoeth y mwd a’r hesg.

Un o’r prosiectau diweddar oedd i blannu dolydd blodau gwyllt a rheoli’r tir drwy ei bori gan wartheg cynhenid ar amseroedd priodol. Bydd sesiynau Cyfarfod y Gwartheg a’r Gweithdy Ditectif Pŵ yn gyfle i ddysgu mwy am hyn. Peidiwch â phoeni - bydd cyfleusterau golchi dwylo ar gael!

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Amgylchedd: “Rydw i’n annog teuluoedd i ddod i fwynhau’r gweithgareddau Pasg ac i ddysgu mwy am fyd natur a’r cynefinoedd arbennig sydd gennym yma yng Ngwynedd.

“Morfa Madryn ydi un o’r llefydd gorau yng Nghymru i weld y gornchwiglen. Ond gan fod yr aderyn bach hynod hwn yn adeiladu ei nyth ar y ddaear mae’n agored i adar fel brain neu anifeiliaid fel llwynogod  ddwyn ei wyau neu gywion. Mae cŵn hefyd yn gallu aflonyddu arnynt, a hawdd iawn fyddai i bobl sathru ar nyth yn ddamweiniol, felly mae’n holl bwysig cynnal ffensys i’w gwarchod.

“Mae’n rhyfeddol o gofio bod Morfa Madryn wedi ei greu yn wreiddiol allan o safle oedd yn cael ei ddefnyddio i storio gwastraff adeiladu’r A55!

 

“Rydw i’n mawr obeithio bydd teuluoedd sy’n mynychu’r diwrnod yn cael eu hudo’n ôl i’r warchodfa dros y tymhorau, yn enwedig felly gan ei fod nepell o Lwybr Arfordir Cymru ac yn cynnig llawer o bethau difyr i bobl o bob oed i’w gweld ac i fwynhau byd natur.”

 

Bydd gweithgareddau’r Pasg ymlaen rhwng 10am-3pm ar 2 Ebrill, mynediad am ddim. Bydd paned a chacen ar gael hefyd – am ddim i’r 100 cyntaf fydd yn cwblhau’r heriau natur ar y diwrnod. Rhywbeth i bawb o bob oed!

Mae lle parcio ar y Promenâd yn Llanfairfechan (A55, Cyffordd 15), i gyrraedd safle’r diwrnod hwyl dilynwch Lwybr Arfordir Cymru tua’r gorllewin am tua 1 milltir o’r maes parcio. Rhaid cadw cŵn ar dennyn.

Mae’r prosiect yn rhan o waith Cynllun Llefydd Lleol i natur Llywodraeth Cymru.

Am fwy o wybodaeth am y sesiwn, cysylltwch â: bioamrywiaeth@gwynedd.llyw.cymru / 01766 771000

 

Lluniau:

1 – Cherry, y fuwch

2-Cornchwiglen yn ymosod ar grëyr bach

3- Dot y ceffyl yn Madryn