Cyngor Gwynedd yn cydnabod safon gwaith cwmnïau adeiladu lleol

Dyddiad: 03/03/2023
cyfuno

Mae safon gwaith dau o gwmnïau adeiladu o Feirionnydd wedi ei gydnabod fel rhan o wobrau rhanbarthol.

 

Cafodd gwaith gan gwmnïau N Roden a’i Fab a M L Evans (Darowen) Cyf eu henwebu gan Wasanaeth Rheolaeth Adeiladu Cyngor Gwynedd am safon eu gwaith.

 

Yn dilyn oediad o ddwy flynedd o ganlyniad i’r pandemig, roedd Gwasanaeth Rheolaeth Adeiladu’r Cyngor yn falch o gyflwyno gwobrau Rhagoriaeth Adeiladu LABC Gogledd Cymru i gwmnïau lleol am safon eu gwaith.

 

Meddai Martin Evans, Rheolwr Gwasanaeth Rheolaeth Adeiladu’r Cyngor:

 

“Mae cydnabod gwaith o safon yn bwysig iawn i ni fel Gwasanaeth Rheolaeth Adeiladu. Ar ôl cyfnod y pandemig, roedden ni’n awyddus i ail-afael yn y gwaith o ddathlu llwyddiannau adeiladwyr Gwynedd.

 

“Mae’n braf iawn i allu amlygu gwaith o safon gan gwmnïau adeiladu sy’n lleol i ni yma yng Ngwynedd.

 

“Roedd gwaith ar y ddau brosiect a enwebwyd am wobr Rhagoriaeth Adeiladu LABC Gogledd Cymru yn hynod uchel ac mae’n braf fod y ddau gwmni wedi eu gwobrwyo. Llongyfarchiadau mawr i’r enillwyr.”

 

Cyflwynwyd tystysgrif Rhagoriaeth Adeiladu LABC Gogledd Cymru i gwmni N Roden a’i Fab o Arthog yn ardal Dolgellau, am adeiladu tŷ annedd cyfoes yn Llandanwg ger Harlech.

 

Yn ogystal, cyflwynwyd yr un wobr i gwmni Adeiladu M L Evans (Darowen) Cyf am drosi beudai i ddau dŷ yn Llwyngwril.

 

Mae Gwasanaeth Rheolaeth Adeiladu y Cyngor yn cynnig cyngor i aelodau’r cyhoedd ac adeiladwyr i sicrhau fod unrhyw ddatblygiadau yn cydymffurfio gyda gofynion perthnasol, ac yn cael ei gynnal i safon.

 

Yn gyffredinol, mae cymeradwyaeth Rheolaeth Adeiladu yn ofynnol ar gyfer y rhan fwyaf o waith adeiladu, gan gynnwys codi adeilad newydd, neu newid defnydd adeilad, ehangu neu newid adeilad, gan gynnwys llofft yn y to neu garej, ffenestri neu ddrysau newydd, newidiadau strwythurol mewnol, fel tynnu wal gynhaliol neu bartisiwn, gosod rhai mathau o offer gwresogi, cadarnhau sylfeini a gosod a newid y mwyafrif o gylchedau trydanol o fewn adeiladau.

 

Am fwy o wybodaeth am Wasanaeth Rheolaeth Adeiladu Cyngor Gwynedd, gan gynnwys y meysydd lle gallech fod angen hawl, ewch i: www.gwynedd.llyw.cymru/rheolaethadeiladu

 

LLUNIAU:

1 - Nick Roden yn derbyn ei wobr gan Karl Jones, Rheolaeth Adeiladu Cyngor Gwynedd.

2 - Lowri a Meilyr Evans yn derbyn eu gwobr gan Karl Jones, Rheolaeth Adeiladu Cyngor Gwynedd