Annog parcio cyfrifol wrth ymweld â lleoliadau poblogaidd Gwynedd

Dyddiad: 31/03/2023
Gyda thymor y gwyliau ar y gorwel, mae awdurdodau yng Ngwynedd yn annog pawb sy’n bwriadu ymweld atyniadau poblogaidd i gynllunio o flaen llaw.

 

Mae disgwyl y bydd nifer uchel o bobl yn ymweld â chymunedau’r sir dros y misoedd nesaf. Mae llawer o waith paratoi wedi digwydd ac mae Cyngor Gwynedd yn cydweithio’n agos gyda Heddlu Gogledd Cymru a Pharc Cenedlaethol Eryri i annog pobl i ymddwyn yn gyfrifol wrth ymweld â chymunedau Gwynedd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Amgylchedd:

 

“Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld niferoedd uchel o bobl yn ymweld â llecynnau poblogaidd yma yng Ngwynedd.

 

“Rydym yn annog pobl i gynllunio’u hymweliad a gweithgareddau ymlaen llaw; i ddefnyddio’r meysydd parcio priodol a manteisio ar y cyfle i ddefnyddio gwasanaethau bws sydd ar gael i grwydro’r ardal.

 

“Er enghraifft, bydd y gwasanaeth bws Sherpa yn rhedeg yn rheolaidd gan gysylltu llwybrau poblogaidd o amgylch Yr Wyddfa. Bydd hyn yn galluogi pobl i barcio eu cerbydau yn y meysydd parcio priodol cyn mwynhau mynyddoedd Eryri ac atyniadau poblogaidd eraill sydd ar gael yma yn lleol.

 

“Fel Cyngor rydym yn cydweithio’n agos gyda Heddlu Gogledd Cymru a Pharc Cenedlaethol Eryri i fonitro’r tueddiadau parcio. Mae staff yr holl bartneriaid yn cydweithio i gadw’r cyhoedd yn ddiogel a gofynnwn i drigolion a phobl sy’n ymweld i gadw hyn mewn cof wrth ymweld â’r ardal a’u trin gyda pharch a charedigrwydd bob amser.

 

“Gofynnwn i fodurwyr i barchu’r cyfyngiadau parcio a chadw’r ffyrdd yn ddi-rwystr a diogel – mae enghreifftiau yn y gorffennol lle mae ceir wedi parcio’n anghyfreithiol a’i gwneud yn anodd iawn i gerbydau’r gwasanaethau brys fynd heibio.

 

“Bydd staff Heddlu Gogledd Cymru a Chyngor Gwynedd, sydd bellach â phwerau i gario cerbydau i ffwrdd, yn rhoi sylw penodol i ardal Eryri.

 

“Ein neges ydi i fodurwyr barcio yn synhwyrol, ond os bydd angen, byddwn yn cymryd camau priodol i symud cerbydau sydd yn parcio’n anghyfreithlon er diogelwch y cyhoedd.”

 

Dywedodd Emyr Williams, Prif Weithredwr Parc Cenedlaethol Eryri:

“Wrth i ni ddynesu at wyliau’r Pasg, rydym yn annog ymwelwyr i Barc Cenedlaethol Eryri gynllunio eu hymweliadau o flaen llaw, gwneud y mwyaf o’r gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus ardderchog a gwneud trefniadau parcio yn flaenoriaeth.

 

Mae synwyryddion newydd wedi eu gosod o amgylch meysydd parcio godre’r Wyddfa ac yn Ogwen fel bod pobl yn gallu gwneud dewisiadau cyfrifol ar le i barcio er mwyn cynnig profiad diogel a chyfforddus i bawb.

 

Dewch i ni weithio gyda’n gilydd i warchod harddwch naturiol y dirwedd anhygoel hon o’n cwmpas er mwyn i bawb ei fwynhau.”

 

Ychwanegodd Arolygydd Gareth Pearson, Uned Plismona Ffyrdd:

 

“Er ein bod yn gwerthfawrogi bod pobl yn mynd allan i fwynhau’r tywydd a’r golygfeydd godidog, rydym yn annog pobl i fod yn gyfrifol ac i feddwl ble maent yn parcio ac i wneud defnydd llawn o’r cyfleusterau parcio a theithio sydd ar gael.

 

“Rydym yn parhau i weithio’n agos gyda’n cydweithwyr yng Nghyngor Gwynedd a’r Parc Cenedlaethol i helpu i leihau’r risg i gerddwyr, beicwyr a defnyddwyr ffyrdd eraill.

 

“Mae’r parcio anghyfrifol a pheryglus yr ydym wedi’i weld yn flaenorol mewn rhai ardaloedd nid yn unig yn peryglu bywydau ond hefyd yn atal mynediad brys i gerbydau.

 

“Bydd unrhyw gerbyd a chanfyddir wedi parcio ar glirffordd neu’n achosi rhwystr yn cael ei symud ar gost y gyrrwr. Gwrandewch ar y rhybudd os gwelwch yn dda.”

 

Os ydych yn ansicr am leoliadau’r meysydd parcio, mae gwybodaeth hwylus ar gael ar wefan Cyngor Gwynedd ar www.gwynedd.llyw.cymru/parcio - mae nifer sylweddol o feysydd parcio’r Cyngor hefyd yn cynnig dull talu drwy ap clyfar ar y ffon ‘Paybyphone’. Mae gwybodaeth am feysydd parcio Parc Cenedlaethol Eryri ar gael ar eu gwefan www.eryri.llyw.cymru