Cyfle gwych i ddechrau gyrfa fel prentis gyda Chyngor Gwynedd

Dyddiad: 14/03/2022
vkc-oL9D_400x400

Gyda 13 o brentisiaid wedi sicrhau swyddi gyda Chyngor Gwynedd dros y blynyddoedd diweddar, mae’r awdurdod ar gychwyn ymgyrch i recriwtio staff newydd i’r cynllun dros y misoedd nesaf.

 Ers cychwyn y cynllun yn 2019, mae Gwynedd wedi penodi cyfanswm o 30 prentis mewn meysydd amrywiol ar draws gwasanaethau’r Cyngor, gyda nod newydd o benodi hyd at 20 prentis newydd bob blwyddyn.

 Meddai’r Cynghorydd Nia Jeffreys, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd sy’n arwain ar faterion Cefnogaeth Gorfforaethol:

 “Mae Cynllun Prentisiaethau Cyngor Gwynedd yn rhywbeth yr ydw i’n ofnadwy o falch ohono, ac mae’n wych gweld cynnydd pawb sydd wedi bod yn rhan o’r cynllun.

 “Fel Cyngor, rydan ni eisiau sicrhau swyddi da i bobl y sir a diolch i’r cynllun yma mae dwsinau o bobl Gwynedd wedi cael y cyfle i gychwyn gyrfa a chael cymwysterau o werthar yr un pryd, a hynny wrth gwrs mewn amgylchedd naturiol Gymraeg.

 “Rydw i’n falch o amrywiaeth y prentisiaethau sydd wedi eu cynnig, ac yn arbennig o falch ein bod ni’n gweithio i gywiro’r anghydbwysedd rhwng y rhywiau mewn rhai sectorau, efo prentisiaid benywaidd yn cymryd swyddi yn y sector technoleg a pheirianneg a dynion yn brentisiaid yn y maes gofal.

 “Bydd y Cyngor yn bwrw ati i recriwtio rhagor yn fuan, gyda chyfleoedd ym meysydd technoleg gwybodaeth a digidol, gofal oedolion a phlant, gweinyddiaeth, gofal cwsmer, peirianneg sifil a mwy.”

 Un sy’n mwynhau’r profiad ydi Hana Wellings o Ddyffryn Ardudwy sy’n brentis trydanol yn nhîm goleuo stryd y Cyngor. Mae hi’n mwynhau’r amrywiaeth yn y gwaith a’r cyfle i weithio mewn cymunedau gwahanol yng Ngwynedd.

 “Nes i gychwyn y prentisiaeth diwedd mis Awst, felly wedi neud ymhell dros chwe mis yn barod a mae pethau yn mynd yn grêt, dwi'n dysgu pethau newydd bob diwrnod. 

 “Cyn hynny, ro’n i’n gweithio i’r llu awyr am chwe mlynedd. Roedd yna dipyn bach o electroneg yn y swydd yna a mi nes i Lefel-A yn y pwnc yn Coleg Meirion-Dwyfor a dwi wastad wedi mwynhau y pwnc. Dwi’n berson sydd yn hoffi bod tu allan felly roedd y prentisiaeth yma yn berffaith i fi.

“Tra’n gweithio, rydw i hefyd yn gwneud cwrs peirianneg trydanol yn y coleg yn Llangefni sy’n rhoi cyfle i ddatblygu a dysgu.

 “Ar diwedd y prentisiaeth, mi fuaswn i’n hoffi cael swydd penodol yn y maes goleuo strydoedd – mae o rywbeth dwi wir yn ei fwynhau.

 “Mi fyswn i’n annog pobl i drio am prentisiaeth, mae’n ffordd berffaith i ddysgu sgiliau newydd ar y swydd ac i ddysgu y theori yn coleg.”

 Mae Osian Meredydd, o Fangor yn brentis peirianneg sifil yn adran Ymgynghoriaeth YGC y Cyngor.

 “Dwi wedi dechrau fel prentis ers mis Awst 2021 ac yn mwynhau’r profiad lot fawr. Dwi’n dysgu am y gwaith, sef yn bennaf monitro pontydd a strwythurau ffyrdd, ymweld â’r lleoliadau efo staff profiadol.

 “Mae hynny’n rhan pwysig ohono fo, ond dwi hefyd yn mynd i Goleg Cambria unwaith yr wythnos fel rhan o’r prentisiaeth, ac yn ennill cymhwyster perthnasol ar gyfer y gwaith.

 “Mi fyswn i’n licio gweithio fy hun i fyny yn y maes a chael swydd parhaol pan fyddai’n cwblhau’r prentisiaeth – mae’n gyfle da iawn i ddatblygu mewn maes proffesiynol a chael gwneud hynny yma yng Ngwynedd.

 “Mi es i ffwrdd i brifysgol i’r Alban yn syth ar ôl ysgol, ond doedd y cwrs ddim i fi a dwi wedi trio pethau gwahanol. Ond dwi wir yn meddwl mai dyma ydi beth ydw i eisiau ei wneud a dwi’n mwynhau magu profiad wrth fynd.”

 Un o’r prentisiaid gyda Chyngor Gwynedd sydd eisoes wedi mynd ymlaen i sicrhau swydd gyda’r awdurdod ydi Lisa Mair Thomas o Landwrog.

 Dilynodd Lisa brentisiaeth Busnes a Gweinyddiaeth (Adnoddau Dynol) gyda’r Cyngor ar ôl gorffen yn y chweched dosbarth, ac mae hi bellach yn Swyddog Gweinyddol Adnoddau Dynol gyda’r Cyngor.

 Meddai: “Ges i brofiad gwych fel prentis gyda’r Cyngor, yn cael blas a phrofiad byd gwaith wrth ennill cymhwyster.

 “Roedd gen i ddiddordeb mawr mewn adnoddau dynol ac roedd bod yn brentis y dewis gorau i mi. Mi nes i ddysgu pethau newydd bob dydd a datblygu fy ngyrfa, ond yn fwy na hynny gan fwynhau fy ngwaith.

 “Rydw i wedi bod yn ddigon ffodus i symud ymlaen i dderbyn swydd barhaol fel Swyddog Gweinyddol Adnoddau Dynol.

 “Mi fyswn i’n annog pobl eraill i fynd amdani o ran prentisiaeth, y dewis gorau nes i.”

 Gall unrhyw un wneud cais am brentisiaeth gyda’r Cyngor – mae cyfleoedd ar agor i unrhyw un sydd dros 16 oed, sy’n byw yng Nghymru ac heb fod mewn addysg lawn amser.

 Mae prentisiaeth gyda Chyngor Gwynedd yn cynnig dechrau ar lwybr gyrfa, trwy gynnig cyfle i ddysgu wrth weithio, magu profiad proffesiynol yn ogystal â chymhwyster perthnasol a hyn oll drwy gyfrwng y Gymraeg.

 Bydd manylion am yr holl brentisiaethau sydd ar gael gyda Chyngor Gwynedd dros yr wythnosau nesaf yn cael eu cyhoeddi ar wefan prentisiaethau’r Cyngor www.gwynedd.llyw.cymru/prentisiaethau, lle gallwch hefyd gofrestru eich diddordeb. Bydd yr holl gyfleoedd hefyd yn cael eu hyrwyddo ar gyfrifon cymdeithasol y Cyngor.