Pier 125 – arddangosfa newydd yn Storiel, Bangor

Dyddiad: 29/03/2022
Storiel Celf

 

Mae arddangosfa newydd i’w gweld yn Storiel sy’n dathlu 125 mlynedd Pier Bangor.

Mae’r arddangosfa wedi ei threfnu gan Ffrindiau Pier Bangor a Chyngor Dinas Bangor – gan ddathlu 125 mlynedd y Pier, gyda sylw ar hanes a storïau lleol.

Bydd yr arddangosfa yn Storiel, Bangor, hyd at 4 Mehefin. Yn yr arddangosfa, bydd ffilm wreiddiol gan Monster Films yn cael ei ddangos, cynllun blwch rhoddion Bwystfil Menai a baneri bychan yn dangos gwaith celf gan ysgolion lleol, ynghyd a phaneli ag eitemau yn cyfeirio at hanes y pier. Mae mynediad am ddim a chroesewir bob rhodd tuag at y pier.

 

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Dinas Bangor:  

“Mae Pier Bangor wedi bod yn rhan anferth o’n Dinas am ymhell dros ganrif a gwyddwn ei bod yn agos at galon pawb. Rydym mor gyffrous cael dod a’r arddangosfa hon at ei gilydd i ddathlu’r storïau a wnaed dros y 125 mlynedd diwethaf am yr eicon hwn o Fangor.”

 

Meddai Avril Wayte, Cadeirydd Ffrindiau Pier Garth Bangor:

“Rydym yn falch iawn o ddod a 125 mlynedd o hanes yr adeiledd eiconig hwn ym Mangor - Pier y Garth, yn fyw. Trefnwyd hyn ar y cyd gan Gyngor Dinas Bangor a Ffrindiau Pier Garth Bangor, a bydd yr arddangosfa hon yn Storiel yn gyffrous ac yn ddathliad o’r pier a’i phobl.”

 

Mae Storiel ar agor o Ddydd Mawrth i Ddydd Sadwrn , 11am – 5pm. Am fwy o wybodaeth am arddangosfeydd a chasgliadau Storiel, ewch i: www.storiel.cymru