Neuadd Dwyfor i ail-agor yn llawn wedi adnewyddiad £900,000

Dyddiad: 09/03/2022
Awditoriwm 1
Bydd y theatr a’r sinema yn Neuadd Dwyfor Pwllheli yn ail-agor ei ddrysau o ddydd Iau, 10 Mawrth ar ôl gwaith adnewyddu gwerth £900,000.

 Y sioe gyntaf i’w llwyfannu fydd perfformiad un person o'r enw 'The Many Lives of Amy Dillwyn' gan y cwmni theatr Cymraeig, y ‘Lighthouse Theatre’. Mae’r cynhyrchiad, a berfformir gan Sonia Beck, yn olrhain bywyd Amy Dillwyn - swffragét, diwydiannwr a dyngarwr - ac ysmygwr sigâr oedd yn gwthio’r ffiniau. Pris y tocynnau yw £12 neu £10 ac maent ar gael i’w prynu yn Neuadd Dwyfor a’r Llyfrgell o fewn yr adeilad neu ar-lein o www.NeuaddDwyfor.cymru.

 Bydd Cwmni Theatr Fran Wen yn llwyfannu’r perfformiad Cymraeg cyntaf yn Neuadd Dwyfor ar ei newydd wedd gydag ‘Ynys Alys’ yn hwyrach ymlaen yn y mis, ar 22 a 23 Mawrth. Bydd theatr, pop a rap yn gwrthdaro mewn cynhyrchiad sy’n dilyn merch ifanc wrth iddi fynd ati i chwilio am ei hannibyniaeth.

 Dywedodd y Cynghorydd Gareth Thomas, Aelod Cabinet Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd:

 “Mae Neuadd Dwyfor wedi gweld gwelliannau sylweddol i du mewn yr adeilad gyda chyntedd a bar caffi newydd yn croesawu ymwelwyr yn ôl i’r Theatr a’r Sinema, a bar a lolfa newydd i fyny’r grisiau.

 “Mae seddi newydd wedi’u gosod yn yr awditoriwm a’r balconi uchaf gyda lle i 222 gan gynnwys 2 le dynodedig i gadeiriau olwyn.

 “Agorodd y Llyfrgell wedi’r adnewyddiad ar y llawr gwaelod ym mis Chwefror, a byddwn yn annog unrhyw un sydd heb fod yno i ymweld â’r adeilad ar ei newydd wedd.

 “Bydd gwaith adfer pellach yn parhau eleni ar yr adeilad brics coch hanesyddol, a’r gobaith yw y bydd Neuadd Dwyfor yn datblygu i fod yn ganolbwynt bywiog ar gyfer y celfyddydau a diwylliant yn Llŷn, ac y bydd hefyd yn gwasanaethu fel canolbwynt cymunedol sy’n rhoi bywyd newydd i dref Pwllheli."

 Meddai Ceridwen Price, Swyddog Celfyddydau Perfformiadau Neuadd Dwyfor:

 “Fel staff, rydyn ni i gyd yn gyffrous iawn i groesawu defnyddwyr hen a newydd yn ôl i Neuadd Dwyfor, rydyn ni’n gwybod bod pobl wedi methu’r sinema a chynyrchiadau llwyfan yn arbennig.

 "Gobeithiwn y bydd pawb yn hoffi'r newidiadau sydd wedi eu gwneud, tra'n dal i gadw'r cymeriad cartrefol ac unigryw hwnnw y mae pobl yn ei garu ac yn ei werthfawrogi yn Neuadd Dwyfor."

 Bydd rhaglen o ffilmiau ar gael dros y misoedd nesaf gyda chynlluniau i ehangu’r rhaglen ddigwyddiadau i gynnwys cerddoriaeth fyw, gigs, comedi a sgyrsiau felly cadwch olwg drwy wefan newydd www.NeuaddDwyfor.cymru, cyfryngau cymdeithasol neu drwy'r wasg leol.

 Mae’r awditoriwm a’r ystafelloedd cyfarfod ar gael i’w llogi yn ystod y dydd a gofod y Llyfrgell gyda’r hwyr. Ebostiwch: Neuadd_Dwyfor@gwynedd.llyw.cymru am fanylion.

 LLUNIAU: Mae gwaith uwchraddio sylweddol wedi bod yn Neuadd Dwyfor, yn cynnwys seddi newydd yn yr awditoriwm