Mannau Gwyrdd Gwydn: Ymylon gwyllt, ymylon gwell

Dyddiad: 04/03/2022
RGS Greener Corridors and Spaces

Datganiad i'r wasg gan Mannau Gwyrdd Gwydn 

Mae Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol, yr elusen sy’n cefnogi cymunedau i ffermio, garddio a thyfu gyda’i gilydd, yn gweithio gyda Chyngor Gwynedd i gefnogi cymunedau i reoli ymylon a llefydd gwyrdd cyhoeddus eraill (megis rhannau o dir canolfannau cymunedol neu barciau) fel cynefin gweirglodd. Bwriad hyn yw grymuso cymunedau fel eu bod yn cymryd rheolaeth o’u mannau gwyrdd cyhoeddus er mwyn cysylltu’n well er mwyn natur a phobl.  Mae’r alwad yn rhan o linyn ‘Ymylon Gwyllt Ymylon Gwell’’ eu cynllun £1.27 miliwn Mannau Gwyrdd Gwydn.

Mae Cyngor Gwynedd wedi newid eu trefn torri ar ymylon y tu allan i drefi a phentrefi i ddilyn canllawiau arbenigwyr cadwraeth pan fo’n ymarferol bosib a diogel i wneud hynny. Maen nhw hefyd yn torri ‘stribed gwelededd’ o 1m yn rheolaidd – sy’n rhoi ymddangosiad mwy cymen i’r ymylon ac mae hefyd yn bwysig ar gyfer diogelwch. Sut bynnag, o fewn trefi a phentrefi mae’r gyfundrefn torri yn wahanol – mae ymylon yn cael eu torri llawer yn fwy aml fel bod pobl yn gallu cerdded arnynt yn ddiogel ac mae’n edrych yn fwy cymen.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Wager, Aelod Cabinet Priffyrdd a Bwrdeistrefol Cyngor Gwynedd:

“Mae gwarchod amgylchedd a rhywogaethau arbennig ein sir mor bwysig. Drwy newid y ffordd yr ydym yn rheoli’r tyfiant ar ochr ein ffyrdd, gallwn gael dylanwad bositif ar fioamrywiaeth. Mae’n bosib i ymylon ffyrdd weithredu fel coridorau o gynefinoedd pwysig i gefnogi bob math o greaduriaid; o famaliaid bychain i wenyn a gloÿnnod byw. Fe wnaeth y Cyngor gyflwyno newidiadau positif i’r ffordd mae ymylon ffordd yn cael eu trin rhai blynyddoedd yn ôl, ac mae’r prosiect yma yn gam pellach ymlaen yn ein hymdrechion i hybu bioamrywiaeth ar ochr ein ffyrdd.”
Mae rhai ymylon a mannau gwyrdd eraill mewn cymunedau sy’n addas i’w rheoli ar gyfer bywyd gwyllt – a dyna eich gwaith chi!

Mae mwy o wybodaeth ar gyfer safleoedd cymunedol neu sefydliadau wedi eu lleoli yng Ngwynedd ar wefan Gerddi a FFermydd Cymdeithasol https://www.farmgarden.org.uk/resilient-green-spaces/ymylon-gwyllt-ymylon-gwell, neu drwy gysylltu â’r arweinwyr llif gwaith:

Arweinydd Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol: sarah@farmgarden.org.uk

Arweinydd Cyngor Gwynedd: hywynwilliams@gwynedd.llyw.cymru

Mae Mannau Gwyrdd Gwydn yn bartneriaeth a arweinir gan Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol sy’n llywio systemau bwyd wedi eu hail-leoli gan ddefnyddio cymunedau a’u mannau gwyrdd fel grym gyrru ar gyfer newid ar draws Gymru Gyfan tan Fehefin 2023. Ariennir y cynllun drwy Rhaglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Cynllun Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Comisiwn Ewropeaidd.

Am wybodaeth bellach am gynllun Mannau Gwyrdd Gwydn, ac am gyfleoedd eraill i gymunedau gyfrannu i’r cynllun, ewch i wefan Gerddi a Ffermydd Cymunedol, os gwelwch yn dda:

https://www.farmgarden.org.uk/resilient-green-spaces

Mae’r cynullun wedi derbyn arian drwy Rhaglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Cynllun Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.