Gwynedd yn anelu i fod yn gyngor carbon sero net erbyn 2030
Dyddiad: 08/03/2022
Mae Cabinet Cyngor Gwynedd wedi mabwysiadu Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur uchelgeisiol sy’n gosod nod i fod yn awdurdod carbon sero net erbyn 2030.
Daw hyn yn dilyn penderfyniad y Cyngor llawn i ddatgan argyfwng hinsawdd ac fwy diweddar, ymrwymiad gan y Cyngor i fuddsoddi £3 miliwn i wireddu prosiectau amrywiol yn ymwneud a'r hinsawdd.
Mae’r gwaith sydd wedi ei gynnwys yng Nghynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur dros y blynyddoedd nesaf yn cynnwys:
- gosod pwyntiau gwefru cerbydau trydan er budd pobl Gwynedd ac ar gyfer fflyd y Cyngor;
- cefnogi’r economi gylchol a lleihau gwastraff trwy gefnogi prosiectau caffi trwsio gyda’r bwriad o agos siop yn y lle cyntaf ar safle canolfan ailgylchu y Cyngor ym Mangor;
- cyflwyno cerbydau trydan neu hydrogen ar gyfer casglu gwastraff;
- parhau gyda’r gwaith o wneud adeiladau cyhoeddus yn ynni-effeithlon;
- hyrwyddo bioamrywiaeth drwy drawsnewid cyn safleoedd tirlenwi gwastraff yn weirgloddiau bywyd gwyllt.
Dywedodd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Arweinydd Cyngor Gwynedd:
“Mae’n wir dweud mai newid yn yr hinsawdd ydi un o heriau mwyaf ein hoes, ac mae’n gofyn am weithredu ar y cyd gan bob un ohonom.
“Mae gennym le i fod yn falch o’r gwaith blaengar yr ydym fel Cyngor wedi ei gyflawni dros y degawd diwethaf. Trwy fuddsoddi mewn technoleg newydd a mwy effeithiol fel paneli solar, boeleri ynni-effeithlon mewn adeiladau cyhoeddus, gosod lampau LED ar ein strydoedd a thorri lawr ar siwrnai car staff, fe wnaethom lwyddo i dorri 58% o ôl-troed carbon y Cyngor rhwng 2005/06 a 2019/20.
“Ond mae’n rhaid dwysau y gwaith yma ar y cyd gyda’n partneriaid. Mae’r cynllun yma yn gosod allan nifer o gamau cadarnhaol y byddwn yn eu cymryd wrth i anelu tuag at yr uchelgais nesaf o weld ‘Cyngor Gwynedd yn garbon sero net ac yn ecolegol gadarnhaol erbyn 2030’ a’r nod yn y pendraw o fod yn gwbl ddi-garbon.
“Fel mae ein huchelgais yn awgrymu, rydym am roi lle teilwng i’r gwaith sydd angen ei gyflawni ym maes bioamrywiaeth.
“Y ffaith ydi, gall newidiadau i dymheredd a glawogydd yn sgil newid hinsawdd arwain at golli cynefinoedd byd natur, ac mae colli’r cynefinoedd hynny yn ei dro yn cynyddu’r lefelau o garbon yn yr amgylchedd. Mae’n gylch dieflig y mae’n rhaid ei dorri ac mae’r cynllun yma yn amlinellu cynlluniau y byddwn yn gweithio arnynt yn y maes pwysig yma.
“Wrth gwrs, mae hwn yn faes lle byddwn yn cydweithio’n agos gyda nifer o bartneriaid a thrigolion Gwynedd. Mae’r cynllun cychwynnol sydd wedi ei gymeradwyo yn fan cychwyn cadarnhaol ond byddwn yn adeiladu arno gan drafod gyda chymunedau Gwynedd a phartneriaid i ystyried sut y gallwn gefnogi ein gilydd i gynnal a gwireddu prosiectau yn y maes.”
Mae aelodau Cabinet Cyngor Gwynedd wedi mabwysiadu Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur y Cyngor mewn cyfarfod ar 8 Mawrth 2022. Am fwy o fanylion am y cynllun, ewch i www.gwynedd.llyw.cymru/HinsawddaNatur