Gwobr i staff Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Gwynedd

Dyddiad: 14/03/2022
Gwynedd Youth Service
Mae staff o Wasanaeth Ieuenctid Cyngor Gwynedd wedi eu cydnabod am eu gwaith caled parhaus a’u positif rwydd wrth gefnogi pobl ifanc 11-25 oed i gyflawni eu llawn botensial.

Mae ymdrechion y staff wedi eu cydnabod yng Ngwobrau Trechu Trosedd Blynyddol Uchel Siryf Gwynedd. 

Mae Gwyn Jones, Uchel Siryf Gwynedd wedi gweithio’n agos iawn gyda Nia Rees, Gweithiwr Ieuenctid yn ardal Porthmadog yn ddiweddar drwy gael profiad o sawl prosiect a'r gwaith caled sy’n cael ei wneud ar draws cymunedau gan y tîm.

Mae’r wobr hon yn dilyn llwyddiant Alaw Paul , Gweithiwr Ieuenctid a dderbyniodd wobr am ei gwaith ar ei chynllun Blodeuo’r Cenedlaethau y Bala. Roedd y wobr y llynedd yn cydnabod cyd-weithio gyda phobl ifanc Bala a PCSO Lona Davenport i greu gardd gymunedol yn yr ardal.

Dywedodd y Cynghorydd Dilwyn Morgan, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros blant a phobl ifanc

“Hoffwn longyfarch Nia a’r tîm ar eu llwyddiant a hynny yn dilyn gwobr i Alaw y llynedd. Mae’n dda gweld cydnabyddiaeth am y gwaith caled mae Gwasanaeth Ieuenctid Gwynedd yn ei gyflawni

“Mae’r gwasanaeth yn gweithio’n agos iawn gyda’r Heddlu i drechu trosedd yng Ngwynedd sy’n cynnwys cyd-weithio gyda swyddogion cymunedol ar draws y sir ac wedi bod yn llwyddiannus iawn i dderbyn arian gan gronfa PACT yr Heddlu dros y blynyddoedd diweddar.

“Da gweld fod ymrwymiad staff y Gwasanaeth Ieuenctid sy’n rhoi cyfleoedd i bobl ifanc Gwynedd ddatblygu sgiliau personol, cymdeithasol ac addysgol yn cael ei wobrwyo.  Mae’r gwasanaeth yn cynnig darpariaeth mewn cymunedau ledled y sir gyda’r nos ac yn ystod gwyliau’r ysgol.

“Darperir gwaith Cymorth Ieuenctid i rai sy’n 11-16 oed sy’n canolbwyntio ar ddarpariaeth ym mhob ysgol uwchradd drwy’r sir ac yn pontio gwaith cymorth ieuenctid i gymunedau y tu allan i oriau ysgol. Yn ogystal â gwaith Cymorth Ieuenctid i rai 16-24 oed sy’n canolbwyntio ar ddarpariaeth wedi ei dargedu i bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, hyfforddiant na gwaith.

“Mae rhai o’r gweithgareddau yma’n cynnwys Gŵyl Lles Ieuenctid Gwynedd, cyrsiau i bobl ifanc a rhaglen FRIENDS ar gyfer datblygu gwytnwch pobl ifanc a llawer mwy. Dilynwch y Gwasanaeth ar y cyfryngau cymdeithasol am fwy o wybodaeth am yr hyn sy’n digwydd yn eich ardal leol.”

Am ragor o wybodaeth am beth mae Gwasanaeth Ieuenctid Gwynedd yn eu cynnig cysylltwch â ieuenctid@gwynedd.llyw.cymru a dilynwch Gwasanaeth Ieuenctid Gwynedd ar Facebook a Trydar