Gweithgareddau newydd cyffrous i wella lles oedolion hŷn yng Ngwynedd.

Dyddiad: 02/03/2022
Janet Harry Linda

Mae Dementia Actif Gwynedd yn lansio sesiynau newydd gyda’r nod o ddod â phobl hŷn at ei gilydd yn y gymuned i helpu gwella iechyd a lles.

Mae’r sesiynau’n agored i unrhyw un a hoffai’r cyfle i gymryd rhan mewn ymarfer corff ysgafn a mwynhau amser i gymdeithasu dros baned.

Mae croeso i bawb o bob gallu ac mae'r sesiynau'n yn gynhwysol i bobl sydd wedi'u heffeithio â dementia a chyflyrau iechyd eraill. Mae'r sesiynau'n costio £2 ac yn cynnwys paned.

Dyma beth sydd ar gael:-
Heini Llŷn - Dosbarth Cadw’n Heini bob dydd Gwener, 11am-12:30pm yn y Ganolfan Gymunedol yn Sarn Mellteyrn. Mae'r dosbarth hwn eisoes wedi dechrau.
Heini Bro Ffestiniog - Dosbarth Cadw’n Heini bob dydd Gwener 11am-12:30pm yn y Ganolfan Gymunedol ym Mlaenau Ffestiniog. Dechrau dydd Gwener, 4 Mawrth 2022.

Mae'r ddau ddosbarth hyn yn cynnwys ymarfer corff ysgafn i helpu i wella cryfder, cydbwysedd a stamina. Gellir gwneud yr ymarferion wrth eistedd neu sefyll a bydd yr hyfforddwr yn teilwra'r ymarferion i weddu i'ch gallu yn dibynnu ar symudedd, anafiadau neu gyflyrau iechyd eraill.

Cynhelir Clwb Atgofion Chwaraeon Nefyn bob yn ail ddydd Iau, 2pm-3:30pm yn nhafarn Yr Heliwr. Dyma Glwb sy’n dod â dilynwyr chwaraeon at ei gilydd am y cyfle i siarad a hel atgofion am bob math o chwaraeon. Bydd y sesiwn yn cynnwys trafodaethau ar bynciau chwaraeon penodol; cwisiau, cystadlaethau ‘Spot the Ball’ ac ambell gêm Boccia neu Cyrlio Oes Newydd. Bydd y Clwb yn cael ei lansio ar ddydd Iau, 10 Mawrth am 2pm gydag enwogion lleol yn ymuno yn yr hwyl ac yn darparu ychydig o adloniant!

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Gofal Cyngor Gwynedd:
"Rwy’n falch o allu cefnogi Dementia Actif Gwynedd ac wedi gweld drosta fy hun pa mor bwysig yw rhoi hwb i bobol i ail gychwyn codi allan. Bydd y dosbarthiadau yma yn llawn hwyl ag yn rhoi gwên ar sawl wyneb."

Meddai Emma Quaeck, Rheolwr Dementia Actif Gwynedd sydd wedi sefydlu’r sesiynau hyn: “Mae’r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn anodd i lawer o bobl hŷn yn ein cymunedau a allai fod wedi treulio’r rhan fwyaf o’r amser hwnnw heb adael y tŷ. Rwy'n meddwl y byddai llawer ohonom yn hoffi ailgysylltu â phobl a mwynhau rhai gweithgareddau iach mewn amgylchedd diogel a chyfeillgar.”

Am fwy o wybodaeth am sut i ymuno â’r dosbarthiadau, :-

Cysylltwch ag Emma ar 07768 988095 neu ebostio emmajaynequaeck@gwynedd.llyw.cymru