Cyfle i ddysgu am faterion ynni - digwyddiad gwybodaeth yn Nhanygrisiau

Dyddiad: 22/03/2022
Gyda materion ynni yn rhywbeth sydd ar feddwl teuluoedd ledled y wlad, mae digwyddiad gwybodaeth penodol am y pwnc yn cael ei drefnu yn Nhanygrisiau yn fuan.

Bydd y digwyddiad – sydd ar agor i unrhyw drigolyn o Wynedd – yn cael ei drefnu gan Gyngor Gwynedd, y Dref Werdd, Nyth Cymru, City Energy a Menai Heating.

Bwriad yn y prynhawn agored ar ddydd Gwener, 8 Ebrill a fydd yn cael ei gynnal yn Ysgol Tanygrisiau o 3pm hyd 7pm fydd rhannu gwybodaeth am ynni a grantiau sydd ar gael ar gyfer boeleri ac insiwleiddio tŷ drwy Nyth ac ECO ac ateb unrhyw gwestiynau.

Mae’r sesiwn yn dilyn y digwyddiad oedd wedi ei drefnu fis diwethaf ond y bu rhaid ei ohirio oherwydd effeithiau stormydd Eunice a Franklin.

Bydd cymorth ar gael i helpu gyda chostau ynni, a mae pobl leol yn cael eu hannog i fynd i siarad gyda’r arbenigwyr am leihau biliau, sut i gynhesu cartrefi’n well a sut i leihau ôl-troed carbon.

 Bydd cyfle hefyd i gyfnewid bylbiau – dewch â’ch hen fylbiau ac ewch ag un LED yn ei le.

Meddai Carys Fon Williams, Pennaeth Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd:

“Gyda chynnydd biliau ynni sylweddol i aelwydydd ar draws y wlad, rydym yn awyddus i wneud popeth posib i helpu pobl Gwynedd a chynnig cyngor.

“Rydan ni’n falch o fod yn cynnal y digwyddiad a fydd yn cynnwys arbenigwyr yn y maes o amrywiol bartneriaid sy’n gweithio yn y maes ynni. Ein gobaith ydi y bydd y digwyddiad yma yn gyfle i gynnig cefnogaeth a chyngor i bobl Gwynedd am wneud y defnydd gorau o ynni.

“Felly, rydym yn annog pobl leol i’r ardal a thu hwnt i alw draw i’n gweld yn Nhanygrisiau. Bydd croeso cynnes i bawb.”

Am fwy o wybodaeth am faterion ynni a'r cyngor sydd ar gael gan Gyngor Gwynedd, ewch i Ynni yn y cartref (llyw.cymru)