Cyllideb Cyngor Gwynedd 2021/2022
Dyddiad: 05/03/2021
Mae cynghorwyr Cyngor Gwynedd wedi gosod eu cyllideb flynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2021/22, bydd hyn yn sicrhau bod gwasanaethau yn cael eu gwarchod i bobl leol.
Er gwaetha’r pwysau ariannol mae’r Cyngor wedi ei wynebu dros y 12 mis diwethaf oherwydd Covid-19, mae rheolaeth ariannol lym wedi galluogi’r Cyngor i osgoi toriadau byrbwyll i wasanaethau ar gyfer y flwyddyn ariannol 2021/22.
Derbyniodd Cyngor Gwynedd sicrhad o gynnydd mewn cyllid gan Lywodraeth Cymru a fydd yn talu’r gost o chwyddiant yn y flwyddyn nesaf. Fodd bynnag, ni fydd yr arian hyn yn unig yn ddigonol ar gyfer costau darparu’r gwasanaethu lleol mae trigolion Gwynedd eu hangen, oherwydd cynnydd mewn yn y gofyn.
Yn dilyn cyfarfod llawn yn y Cyngor ar 4 Mawrth, mae cynghorwyr wedi cytuno i gyllido bwlch o £3.5 miliwn drwy barhau i wireddu arbedion sydd wedi eu hadnabod yn barod a chynyddu’r Dreth Cyngor o 3.7%. Mae’r cynnydd yma - sydd yn gyfwerth a £1.02 yn ychwanegol ar gartref cyffredin (Band D). Mae’n debyg o fod yn agos i gyfartaledd y 22 cyngor Cymreig.
Dywed y Cynghorydd Ioan Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Gyllid: “Mae Cyngor Gwynedd wedi goresgyn heriau digynsail dros y flwyddyn ariannol ddiwethaf er mwyn parhau i ddarparu gwasanaeth angenrheidiol i bobl leol. Yn anffodus, bydd y pwysau ariannol sy’n gysylltiedig â Covid-19 yn debygol o barhau i effeithio arnom i’r dyfodol agos ac yn sicr am y flwyddyn ariannol nesaf.
“Gyda hyn, rydym yn croesawu’r ffaith fod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu ad-dalu cyfran sylweddol o’r costau ychwanegol mae’r Cyngor wedi ei wynebu, ac y byddwn yn parhau i’w wynebu, oherwydd effaith y pandemig.
“Mae effeithiau'r pandemig wedi ei gwneud yn anodd iawn i wireddu rhai o’r arbedion roeddem wedi eu cynllunio dros y 12 mis diwethaf. Dros yr amser yma, blaenoriaeth y Cyngor oedd diogelu iechyd a bywydau trigolion Gwynedd.
“O ganlyniad, mae’r Cyngor wedi penderfynu cynyddu Treth Cyngor i 3.7% er mwyn cau’r bwlch o £3.5 miliwn yn ein cyllideb. Bydd y cynnydd yma yn ein galluogi i barhau i ddarparu’r gwasanaeth sy’n bwysig i drigolion Gwynedd dros y 12 mis nesaf.”
Yng nghyfarfod llawn y Cyngor, penderfynodd y cynghorwyr i gynyddu Treth Cyngor Premiwm ar ail gartrefi a thai sy’n sefyll yn wag yn yr hir dymor o 50% i 100% ar gyfer y flwyddyn ariannol 2021/22. Mae disgwyl i’r penderfyniad yma i greu £3 miliwn yn ychwanegol a gaiff ei glustnodi ar gyfer ehangu’r Strategaeth Dai.
Ariannwyd y Cynllun Tai cyfredol gan gynnyrch y Premiwm Treth 50%. Cafodd ei gymeradwyo yng nghyfarfod y Cabinet ar 15 Ragfyr 2020, gyda’r bwriad o ddarparu tai i bobl ifanc o fewn ein cymunedau.
Ceir gwybodaeth am Dreth Cyngor, a gwybodaeth am yr help sydd ar gael i’r rhai sydd yn cael trafferthion talu, a’r gostyngiadau sydd ar gael, yma: www.gwynedd.llyw.cymru/trethcyngor