Cwmnïau yn cefnogi Ardal Gwella Busnes Bangor
Dyddiad: 17/03/2021
Mae busnesau ym Mangor wedi cefnogi cynnig i barhau ag Ardal Gwella Busnes (AGB) Bangor am dymor arall o 5 mlynedd.
Ar 11 Chwefror 2021, cyhoeddwyd bod Hysbysiadau Pleidlais yn cynnal pleidlais o fusnesau ym Mangor ynghylch y bwriad i barhau â'r AGB yn y dref. Gofynnwyd i fusnesau bleidleisio a oeddent o blaid neu yn erbyn yr AGB.
Yn ystod y cyfnod pleidleisio, derbyniodd busnesau wybodaeth am y cynnig AGB a thrwy waith caled grŵp o fusnesau lleol a gwirfoddolwyr lleol, hyrwyddwyd y cynnig fel cyfle unigryw i Fangor.
Mae'r canlyniadau'n dangos y derbyniwyd 109 pleidlais gan roi pleidlais o 31%. O'r rhai a bleidleisiodd, pleidleisiodd 58% o'r nifer o blaid a 69% o'r gwerth ardrethol cyfanredol o blaid yr AGB.
O ganlyniad, roedd mwyafrif nifer y busnesau a'u gwerth ardrethol o blaid yr AGB ym Mangor. Cyhoeddwyd canlyniad y bleidlais yn ddiweddar gan Swyddog Canlyniadau Cynghorau Gwynedd.
Yn dilyn y canlyniad cadarnhaol, dywedodd y Cynghorydd Gareth Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Ddatblygu Economaidd a'r Gymuned:
“Rwy’n falch bod busnesau ym Mangor wedi gallu defnyddio eu pleidleisiau o dan amgylchiadau mor anodd. Ar hyn o bryd mae ein canol trefi yn wynebu heriauenfawr, a gobeithiwn y bydd y canlyniad cadarnhaol i Fangor yn darparu cyfleoedd ychwanegol i hyrwyddo a dod â buddsoddiad i'r ddinas. Rydym yn edrych ymlaen at weithio'n agos gyda Bangor Yn Gyntaf dros y 5 mlynedd nesaf.”
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am AGB yma: llyw.cymru/ardaloedd-gwella-busnes