Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws ) - Cau Llwybrau a Thir Agored
Dyddiad: 25/03/2020
Yn dilyn digwyddiadau’r penwythnos diwethaf (21 a 22 Mawrth) pan welwyd niferoedd mawr o bobl yn ymweld â chefn gwlad ag arfordir Gwynedd a siroedd eraill mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Rheoliadau Diogelu Iechyd sy’n rhoi awdurdod i Gynhorau Sir, Y Parciau Cenedlaethol, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Chyfoeth Naturiol Cymru i gau hawliau Tramwy cyhoeddus.
Pwrpas y rheoliadau yw atal mynediad i leoliadau fel Y Wyddfa a mannau eraill sy’n denu niferoedd mawr o bobl ac o ganlyniad yn peryglu iechyd eraill.
Nid bwriad y rheoliadau yw cau ac atal defnydd mwyafrif o’r rhwydwaith llwybrau. Mae’n bwysig bod ein llwybrau ar gael i bobl Gwynedd yn agos i’w cartrefi ar gyfer cadw’n heini ac ymlacio ar adeg sy’n heriol i ni gyd. Dylai pawb sy’n defnyddio’n llwybrau gadw at ganllawiau'r Gwasanaeth Iechyd, dim mwy na dau i ymgynnull a chadw o leiaf 2 medr i ffwrdd o eraill all fod ar y llwybr neu ar y tir neu eiddo cyfagos.
Serch hynny, rhaid gweithredu i atal ail adrodd digwyddiadau’r penwythnos diwethaf ac mae Cyngor Gwynedd yn cydweithio gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i gau llwybrau a thir agored yn yr ardaloedd canlynol - Yr Wyddfa, Cader Idris, Y Garn (Ogwen) , Y Glyderau, Tryfan, Aran Benllyn a Aran Fawddwy.
Mae’r gwaharddiadau mynediad yn weithredol o hanner dydd, dydd Mercher 25 Mawrth 2020.