Lleoliadau Cyngor yn cau ar draws Gwynedd i warchod y cyhoedd
Dyddiad: 23/03/2020
Mae Cyngor Gwynedd wedi cymryd y penderfyniad i gau lleoliadau ar draws y sir. Mae’r penderfyniad wedi ei gymryd i warchod iechyd y cyhoedd a staff, yn unol â chyngor y Llywodraeth o ran ymbellhau cymdeithasol.
Mae manylion llawn am y gwasanaethau sydd bellach ar gau i’w gweld yma:
Toiledau cyhoeddus
Mae holl doiledau cyhoeddus Cyngor Gwynedd ar gau o heno (23 Mawrth 2020).
Traethau
Morfa Bychan – mae mynediad parcio a cherbydau i’r traeth bellach ar gau
Abersoch – mae mynediad cerbydau i draeth Abersoch bellach ar gau
Mae pob llithrfa y Cyngor ar gau
Mae holl gonsesiynau gwerthu bwyd a diod ar hyd arfordir Gwynedd wedi ei atal ( gwerthwyr hufen ia ac ati)
Harbyrau
Aberdyfi ac Abermaw – pob llithrfa wedi cau a dim cychod yn parcio a lansio am gyfnod amhenodol.
Llithrfa harbwr Porthmadog ar gau.
Parciau Gwledig
Parc Padarn – mae’r parc a’r meysydd parcio ger yr Amgueddfa Lechi Cenedlaethol ar gau.
Ardal Y Glyn (lagŵns) ger Parc Padarn ar gau.
Parc Glynllifon – mae’r parc a’r meysydd parcio gerllaw ar gau.
Hafan Pwllheli
Mae mynediad i’r pontŵns wedi ei wahardd.
Mae pob llithrfa ar gau a does dim cychod parcio a lansio.
Mae manylion am yr holl wasanaethau Cyngor Gwynedd sydd wedi eu heffeithio gan bandemig Covid-19 i’w gweld yma www.gwynedd.llyw.cymru/Coronafeirws