Disgyblion Twtil ac Aberdaron mewn ymgyrch codi ymwybyddiaeth amgylcheddol
Dyddiad: 11/03/2020



Mae rhai o ddisgyblion Ysgol Santes Helen, Caernarfon ac Ysgol Crud y Werin, Aberdaron wedi bod yn brysur yn creu posteri lliwgar er mwyn tynnu sylw i’r niwed y mae plastigion a mathau eraill o sbwriel yn eu cael ar yr amgylchedd.
Mae’r ysgolion wedi bod yn gweithio gyda phrosiect Trefi Taclus Cyngor Gwynedd i godi ymwybyddiaeth am lygredd sbwriel yn ein cymunedau, a hefyd ynghylch plastigion sy’n cynyddu yn ein moroedd ac sydd yn niweidio bywyd morol.
Mae’r posteri lliwgar yma bellach wedi’u trosglwyddo ar gefnen galed gan dîm Trefi Taclus a bydd yr arwyddion yn cael eu gosod o gwmpas eu cymunedau i annog pobl i ailgylchu ac i roi eu sbwriel mewn bin pwrpasol.
Dywedodd y Cynghorydd Ioan Thomas, sy’n cynrychioli ward Menai yng Nghaernarfon: “Mae’n wych gweld brwdfrydedd y plant pan maen nhw’n siarad am y broblem sbwriel a phlastig yn ein hamgylchedd. Y genhedlaeth yma fydd rhaid delio â’r problemau yn y dyfodol, felly mae’n ofynnol i ni wneud rhywbeth amdano nawr cyn y bydd yn rhy hwyr.”
Ar ran y Cyngor Ysgol yn Ysgol Santes Helen, meddai Katie, Jac a Mikolaj: “Rydan ni wedi sylwi bod sbwriel yn ardal yr ysgol, felly rydan ni wedi bod yn mynd i’w godi. Un diwrnod fe ddaru ni codi dau lond bag o sbwriel! Rydan ni hefyd wedi cael cystadleuaeth gwneud poster i ddweud wrth bawb i roi sbwriel yn y bin.
“Hoffwn ni ddweud diolch yn fawr i Jonathan Neale o Drefi Taclus am ein helpu. Cofiwch sbïo ar yr arwyddion – a gobeithio fydd Twtil yn lân o hyn ymlaen!”
Ar ran gymuned Aberdaron, dywedodd y Cynghorydd Gareth Roberts: “Roedd yn bleser i gyfarfod plant yr ardal unwaith eto ac i weld eu hymrwymiad mewn ymgyrch mor ganmoladwy. Mae’n glir i weld bod pawb yn yr ysgol wedi rhoi ymdrech arbennig i greu poster mor drawiadol a lliwgar.
“Diolch hefyd i Drefi Taclus y Cyngor am helpu i wireddu amcanion y plant.”
Dywedodd Catrin Jones, athrawes Cyfnod Sylfaen yn Ysgol Crud y Werin: “Gan ddefnyddio addysgeg Mantell yr Arbenigwr, fe gafodd y disgyblion lythyr gan y cranc bach yn poeni am yr holl sbwriel sydd ar draethau lleol. Wedi ymweld gyda'u traeth lleol, sylweddolodd y plant fod biniau pwrpasol o gwmpas, ond fod angen tynnu sylw pobl atynt. Penderfynodd y disgyblion mai'r ffordd orau i helpu y cranc, felly, oedd i ddylunio posteri ac aethant ati yn frwdfrydig iawn i geisio datrys y broblem!”
Dywedodd y Cynghorydd Catrin Wager, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Briffyrdd a Bwrdeistrefol: “Mae’n arbennig o dda gweld mwy o bobl ifanc yn mynd ati i herio oedolion i fod yn fwy cyfrifol gyda’u gwastraff - unai drwy ei ailgylchu neu ei roi mewn bin.
“Diolch yn fawr iawn i ysgolion Santes Helen, Twtil a Chrud y Werin, Aberdaron am eu gweledigaeth a’u hegni i wneud gwahaniaeth. Mae’n amlwg o’r dyluniadau fod y gennym ni dalent greadigol yma yn y sir, ac mae’n wych ei weld yn cael ei ddefnyddio i godi ymwybyddiaeth am fater mor bwysig. Gwych!”
Gall unrhyw un sy’n ei gael yn euog o daflu sbwriel mewn man cyhoeddus wynebu orchymyn llys a dirwy o hyd at £2,500. I adrodd am unrhyw achosion o dipio anghyfreithlon, cysylltwch gyda Thîm Gorfodaeth Stryd Cyngor Gwynedd ar 01766 771000.
Am ragor o wybodaeth am Brosiect Gwynedd Daclus Cyngor Gwynedd, cysylltwch gyda’r tîm ar 01766 771000 neu e-bostio TrefiTaclusTidyTowns@gwynedd.llyw.cymru
Lluniau:
1 – Disgyblion Ysgol Santes Helen, Caernarfon gyda Jonathan Neale, Cyngor Gwynedd; Y Cynghorydd lleol Ioan Thomas a’r Cynghorydd Maria Sarnacki, Cyngor Tref Caernarfon.
2 – Disgyblion Ysgol Crud y Werin, Aberdaron gyda Jonathan Neale, Cyngor Gwynedd; Catrin Jones, Athrawes Cyfnod Sylfaen a’r Cynghorydd Gareth Roberts.
3 – Disgyblion Ysgol Crud y Werin, Aberdaron gyda Jonathan Neale, Cyngor Gwynedd; Catrin Jones, Athrawes Cyfnod Sylfaen a’r Cynghorydd Gareth Roberts.