Celf a Ballet yn Ysgol Llanllyfni
Dyddiad: 04/03/2020
Roedd disgyblion Ysgol Llanllyfni ymhlith criw dethol o ysgolion Cymru sydd wedi bod yn cydweithio gyda Ballet Cymru yn ddiweddar.
Cafwyd wythnos arbennig o gelf a ballet yn Ysgol Llanllyfni yn ddiweddar wrth i gynllun ‘Duets’ ymweld a’r ysgol.
Mae’r cynllun, sy’n cael ei redeg gan Ballet Cymru er mwyn ennyn diddordeb plant a phobl ifanc mewn dawns, ac yn benodol mewn ballet yn cynnig cyfleoedd i bobl ifanc o bob cefndir economaidd, cymdeithasol neu ddaearyddol feithrin ei talent.
Roedd y disgyblion wedi mwynhau y profiad ac yn amlwg wedi elwa o’r profiad: “Mae Ballet Cymru wedi dod eto oherwydd roedd y plant yn gweithio’n arbennig o dda ac oeddent wedi gwirioni’n lan gyda Ysgol Llanllyfni.”
Meddai Geraint Jones, Pennaeth Ysgol Llanllyfni: “Diolch yn fawr iawn i Ballet Cymru am ymweld a’r ysgol yn ddiweddar. Cafwyd wythnos hwyliog iawn yn creu celf a dysgu symudiadau ballet newydd a oedd yn brofiad gwerthfawr i’r disgyblion.
“Roedd y gwaith celf a grëwyd yn werth i’w weld, a'r perfformiad a gafwyd yn Pontio, Bangor yn arbennig.
“Dwi’n siŵr fod hyn wedi ysbrydoli’r plant ar gyfer y dyfodol.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Cemlyn Williams, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Addysg: “Braf iawn yw gweld cynllun fel hyn yn dod i Wynedd. Mae’n gyfle gwych i roi siawns i blant a phobl ifanc feithrin ei talentau, ble mae’n debyg na fuasent wedi cael y cyfle fel arall.
“Gobeithio y gwnaiff hyn sbarduno sêr y dyfodol ym myd celf a dawns.”
Ariannir y cynllun gan Sefydliad Paul Hamlin a Chyngor Celfyddydau Cymru.
Am fwy o wybodaeth am y rhaglen ‘Duets’, ewch i https://duetsdancewales.com/dawns-i-bawb-cymru/
LLUN: Disgyblion Ysgol Llanllyfni gyda staff Ballet Cymru