Gweithio'n y maes gofal – digwyddiad recriwtio Gwaith Gofal Cymunedol Porthmadog a'r cylch.
Dyddiad: 31/05/2022
Gyda heriau recriwtio staff cyffredinol yn y maes gofal, mae Cyngor Gwynedd yn cynnal sesiwn recriwtio galw draw i geisio denu gweithwyr newydd i weithio yn y gymuned yn Porthmadog a’r cylch.
Fel rhan o ymgyrch cyffredinol yn y maes gofal, bydd y digwyddiad wyneb i wyneb yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Gymdeithasol Porthmadog ar ddydd Mercher, 15fed o Fehefin 11yb tan 5yp.
Dywedodd Aled Davies, Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant Cyngor Gwynedd:
“Mae ein staff gofal yn darparu gwasanaeth arbennig i bobl mewn cartrefi preswyl ac yn y gymuned. Ond mae sicrhau fod digon o staff yn y maes yn her sy’n wynebu gwasanaethau gofal ar draws y wlad.
"Dyna pam ein bod yn gweithio i recriwtio mwy o staff i'r maes allweddol yma ac yn cynnal sesiwn recriwtio ar gyfer ardal Porthmadog yn y Ganolfan. Bydd y sesiwn galw-heibio yn gyfle i glywed am y gwaith a dysgu am y buddion o weithio i’r Cyngor.
“Felly os ydych chi’n rhywun sy’n hoffi helpu pobl ac sydd eisiau gwneud gwahaniaeth mawr o fewn eich cymuned leol, yna mi fyddwn i’n eich annog i ddod draw i’r digwyddiad ar 15 Mehefin.”
Bydd y digwyddiad recriwtio yn agored i unrhyw un sy’n awyddus i ddysgu mwy am gyfleoedd swyddi sydd gan wasanaethau gofal y Cyngor yn yr ardal, yn ogystal â clywed am pa gefnogaeth sydd gan y Cyngor a’r Ganolfan Byd Gwaith i gefnogi unigolion i waith.
Ar y diwrnod bydd cyfle i glywed am fanteision gweithio i’r Cyngor, gwybodaeth am yr hyfforddiant a chefnogaeth ddarperir i staff newydd, a chael blas ar ofal a bywyd gweithio yn y sector gan ein staff cymunedol parod, o’n timau gofal cartref ac anableddau dysgu. Wedi sgwrsio gyda hwn a llall ac os dymunir bydd cefnogaeth ar gael i gwblhau ffurflen gais ar y diwrnod hefyd.
Mae croeso i unrhyw yn sydd â diddordeb gwybod mwy am weithio yn y gymuned – bydd y sesiwn ar agor o 11yb tan 5yp ar ddydd Mercher, 15fed o Fehefin yng Nghanolfan Gymdeithasol Porthmadog (LL49 9LU.)