Gweithio'n y maes gofal – digwyddiad recriwtio Cartref Bryn Blodau, Llan Ffestiniog

Dyddiad: 10/05/2022
Bryn Blodau

Gyda heriau recriwtio staff cyffredinol yn y maes gofal, mae Cyngor Gwynedd yn cynnal sesiwn recriwtio galw mewn i geisio denu gweithwyr newydd ar gyfer Cartref Preswyl Bryn Blodau yn Llan Ffestiniog.

Fel rhan o ymgyrch cyffredinol yn y maes gofal, bydd y digwyddiad wyneb i wyneb yn cael ei gynnal yng Ngwesty’r Queens, Blaenau Ffestiniog ar ddydd Mercher, 25 Mai o 10am tan 4pm.

Dywedodd Aled Davies, Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant Cyngor Gwynedd:

“Fel Cyngor, rydym yn falch iawn o’n staff ymroddedig sy’n darparu gofal arbennig i bobl mewn cartrefi preswyl ac yn y gymuned – mae’n waith sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl bob dydd.

“Mae sicrhau fod digon o staff yn y maes gofal yn her sy’n wynebu gwasanaethau ar hyd a lled y wlad. Fel rhan o’n hymdrech barhaus i recriwtio i’r maes gofal, rydym yn cynnal sesiwn recriwtio ar gyfer Cartref Bryn Blodau yn Llan Ffestiniog – bydd yn gyfle i ddarpar-staff glywed am y gwaith a dysgu am y buddion o weithio i’r Cyngor.

“Mae’n dilyn sesiwn recriwtio lwyddiannus debyg a gynhaliwyd gennym ym Mangor yn ddiweddar ac rydym yn gobeithio y bydd nifer o bobl sydd â diddordeb yn dod draw i drafod a chlywed mwy.

“Felly os ydych chi’n rhywun sy’n hoffi helpu pobl ac sydd eisiau gwneud gwahaniaeth mawr o fewn eich cymuned leol, yna mi fyddwn i’n eich annog i ddod draw i’r digwyddiad ar 25 Mai.”

Bydd y digwyddiad recriwtio yn agored i unrhyw un sy’n awyddus i ddysgu mwy am gyfleoedd swydd gan y cartref a gwasanaethau gofal eraill y Cyngor yn yr ardal, yn ogystal â clywed am pa gefnogaeth sydd gan y Cyngor a’r Ganolfan Byd Gwaith i gefnogi unigolion i waith.

Ar y diwrnod bydd cyfle i glywed am fanteision gweithio i’r Cyngor, gwybodaeth am yr hyfforddiant a chefnogaeth ddarperir i staff newydd a chael blas ar ofal a bywyd gweithio mewn cartref preswyl gan gynnwys rhai o staff Bryn Blodau. Wedi sgwrsio gyda hwn a llall ac os dymunir bydd cefnogaeth ar gael i gwblhau ffurflen gais ar y diwrnod hefyd.

Mae croeso i unrhyw yn sydd â diddordeb gwybod mwy am weithio mewn cartref preswyl – bydd y sesiwn ar agor o 10am tan 4pm ar ddydd Mercher, 25 Mai yng Ngwesty’r Queens, Blaenau Ffestiniog (LL41 3ES).

LLUNIAU: Mae digwyddiad recriwtio yn cael ei gynnal ar gyfer cartref Bryn Blodau