Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yng Ngwynedd: sesiynau gwybodaeth ac ymgysylltu i rhanddeiliaid
Dyddiad: 27/05/2022
Mae Cyngor Gwynedd yn cynnal sesiynau rhithiol ar 8 a 9 Mehefin 2022 i rannu gwybodaeth am Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU ac i hel adborth ar flaenoriaethau lleol. Gwahoddir rhanddeiliaid lleol yn y sectorau cyhoeddus, preifat a’r trydydd i fynychu’r sesiynau.
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi sefydlu Cronfa Ffyniant Cyffredin y DU a bydd cyllid cyfalaf a refeniw ar gael ar draws tair blaenoriaeth fuddsoddi:
- Cymuned a Lle
- Cynorthwyo Busnesau Lleol, a
- Phobl a Sgiliau.
Mae pob ardal leol yn derbyn dyraniad ar sail fformiwla cyllido a dyrannwyd £24.4 miliwn i Wynedd ar gyfer y cyfnod hyd at Mawrth 2025.
Yng Nghymru, mae’n ofynnol i ardaloedd lleol cydweithio gydag ardaloedd eraill o fewn eu rhanbarth a’r cam gyntaf yn sicrhau’r cyllid yw cyflwyno Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol yn amlinellu sut fydd yr arian yn cael ei rannu rhwng y blaenoriaethau buddsoddi a’i ddosbarthu.
Bydd y Cyngor yn cynnal sesiynau rhithiol i rannu gwybodaeth am y gronfa ac i gasglu adborth ynglŷn â blaenoriaethau’n lleol. Gall rhanddeiliaid lleol yn y sectorau cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector archebu lle drwy ymweld â www.gwynedd.llyw.cymru/cronfeyddyDU
Bydd Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol Gogledd Cymru yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth y DU cyn 1 Awst 2022 a rhagwelir bydd gweithgaredd yn cychwyn yn ystod tymor yr hydref 2022.