Cadeirydd Cyngor Gwynedd 2022/23
Dyddiad: 19/05/2022
Yng nghyfarfod blynyddol Cyngor Gwynedd ar 19 Mai, etholwyd Y Cynghorydd Elwyn Jones (Penisarwaun) yn Gadeirydd Cyngor Gwynedd a'r Cynghorydd Medwyn Hughes (Canol Bangor) yn Is-Gadeirydd.
Yn Gynghorydd Gwynedd ers 2017, mae’r Cynghorydd Elwyn Jones wedi gwasanaethu ar sawl gwahanol bwyllgor yn ystod y cyfnod hwn.
Wrth gael ei ethol yn Gadeirydd Cyngor Gwynedd, dywedodd y Cynghorydd Jones:
“Rwy’n ei hystyried yn anrhydedd a braint cael fy ethol yn Gadeirydd Cyngor Gwynedd ac rwy’n edrych ymlaen at wasanaethu holl drigolion Gwynedd yn ystod y flwyddyn nesaf.”
LLUN: Mae’r Cynghorydd Elwyn Jones (Penisarwaun) wedi ei ethol yn Gadeirydd Cyngor Gwynedd